1 Blaenoriaethau sy’n newid
Wrth i'r ffordd rydym yn gweithio newid, mae llawer o sefydliadau'n ailddiffinio eu diwylliant a'u profiad i weithwyr ar gyfer byd pell a hybrid-yn-gyntaf, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithleoedd mwy cynhwysol a hyrwyddo symudedd cymdeithasol. I ddeall beth mae sefydliadau yn ystyried, a'r sgiliau y maent yn canolbwyntio arnynt, yn y fideo isod, mae Jessica Leigh Jones MBE, cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr iungo Solutions, cwmni sy'n gweithio ar groestoriad busnes, addysg a llywodraeth, yn trafod yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud i fanteisio i’r eithaf ar amrywiaeth a galluogi symudedd cymdeithasol, gan arsylwi bod 'dysgu a datblygu'n chwarae rôl bwysig wrth lefelu'r cae chwarae ar gyfer doniau sy'n amrywiol yn gymdeithasol'.
Mae recriwtio a chadw doniau sy'n gymdeithasol amrywiol o fudd i gyflogwyr a gweithwyr ond, fel mae Gemma Hallett, Pennaeth Sgiliau yn Fintech Wales a sylfaenydd Mifuture, yn dweud yn y fideo, mae paru sgiliau â rolau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell yng Nghymru, wedi bod yn broblem ar adegau. Fodd bynnag, mae gweithio o bell a hybrid yn dod â chyfleoedd newydd i'r cymunedau hyn - er nad yw hyn heb ei heriau.
Transcript
Yn amlwg, mae'r gweithle hybrid yma i aros, sy'n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i ddysgu a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i lwyddo yn yr amgylchedd newydd hwn.
Os ydych ar fin cychwyn yn y gweithle neu ddychwelyd iddo, dyma amser da i feddwl am eich disgwyliadau ynglŷn â gweithio hybrid a myfyrio ar beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol yn y cyfnod nesaf hwn o'ch bywyd. Bydd Gweithgaredd 1 yn eich helpu i ystyried y ddau beth hyn mewn perthynas â'r cwrs hwn.
Gweithgaredd 1 Diffiniadau a blaenoriaethau
Wrth fyfyrio ar y fideo a'r sefydliadau hynny sy'n dal i esblygu wrth iddynt ailddiffinio eu diwylliannau ar gyfer ffyrdd hybrid o weithio, atebwch y cwestiynau canlynol.
Archwiliwch ddiffiniad Halford (2005) o weithio hybrid yn y Cyflwyniad. Ydych chi'n meddwl bod y diffiniad hwn yn dal i fod yn berthnasol heddiw? Beth fyddech chi'n newid amdano?
Darllenwch Ddeilliannau dysgu’r cwrs a'u rhestru yn nhrefn pwysigrwydd i chi'n bersonol o ran yr hyn rydych angen mwyaf o help ag ef, gydag 1 y pwysicaf a 7 y lleiaf pwysig. Dylai hyn eich helpu i benderfynu ble i ganolbwyntio eich amser ar y cwrs hwn.
Gadael sylw
Nid yw'r term TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) yn cael ei ddefnyddio cymaint heddiw, yn y 2020au. Fodd bynnag, mae'r egwyddor o ddefnyddio technoleg i weithio mewn lleoliad sefydliadol a rhywle arall yn dal i fod yn ddilys. Wedi dweud hynny, yn y 2020au, nid yw gweithio o bell yn golygu gweithio o adref o reidrwydd, oherwydd bod datblygiad technoleg symudol yn galluogi pobl i weithio wrth symud, fel ar drên. Ers pandemig COVID-19, bu mwy o ffocws hefyd ar hyblygrwydd patrymau gweithio, er enghraifft i alluogi gweithwyr i gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a chyfrifoldebau gofalu.
Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir ar gyfer y cwestiwn hwn. Os yw’ch amser yn gyfyngedig, efallai y dymunwch ganolbwyntio'n gyntaf ar y rhannau o'r cwrs sy'n ymdrin â'r canlyniadau dysgu rydych wedi’u rhestru yn safle 1 neu 2. Fel arall, gweithiwch drwy'r cwrs mewn trefn gronolegol, oherwydd dyma sut mae'r cwrs wedi cael ei ddylunio.