8 Rheoli eich lles wrth weithio o bell
Bu amrywiaeth o astudiaethau ar oblygiadau gweithio pell neu hybrid ar iechyd meddwl (Xiao et al., 2021). Heb amserlen glir, gall y llinellau rhwng amser gwaith ac amser personol fynd yn aneglur, ac achosi straen i'w reoli. Hefyd gall ynysu cymdeithasol fod yn bryder, os nad ydych yn siarad â phobl eraill ar-lein yn rheolaidd, neu’n dod o hyd i gyfleoedd i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb. Gall hyn arwain at ddiffyg cymhelliant yn ogystal â phryder, a gall wneud niwed i’ch iechyd meddwl. Felly, mae'n ddefnyddiol cymryd rhai rhagofalon er mwyn amddiffyn eich hun yn feddyliol yn y ffordd orau. Dyma bedwar awgrym syml i osgoi blinder hybrid a thrafferthion meddyliol gweithio pell:
Gall gosod trefn glir fod yn un o'r ffyrdd gorau o gadw trefn ar bethau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i'r gwely ac yn deffro ar amser tebyg bob dydd, yn gorffen gwaith ar amser tebyg, ac yn rhoi popeth i’r neilltu ar ôl i chi orffen er mwyn sicrhau bod eich amgylchedd gwaith yn 'stopio' yn llawn ar ddiwedd y dydd.
Os oes gennych le yn eich cartref, gall creu man gweithio pwrpasol ar gyfer gwaith olygu eich bod yn teimlo'n fwy brwdfrydig ar gyfer y diwrnod gwaith sydd o'ch blaen. Bydd hefyd yn eich helpu i osgoi pethau sy’n tynnu sylw ac yn sicrhau diwrnod cynhyrchiol.
Trefnwch siarad â rhywun naill ai'n rhithiol neu trwy gwrdd am baned o goffi, neu fynd am dro o leiaf unwaith yr wythnos. Nid oes yn rhaid i hyn fod yn gydweithiwr o'r gwaith.
Yn olaf, mae’n bwysig gwneud amser ar gyfer egwyliau, er mwyn helpu i reoli teimladau o straen. Ceisiwch gymryd egwyl cinio ac egwyliau rheolaidd o’r sgrin, a rhoi rhywbeth arall i'ch hun ganolbwyntio arno, hyd yn oed os yw hyn am bum munud yn unig. Mae gweithio hybrid/pell yn cynnwys llawer mwy o amser sgrîn na diwrnod swyddfa traddodiadol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd cymaint o egwyliau â phosib.
Gweithgaredd 13 Eich llinell amser waith ddyddiol
Defnyddiwch y blwch testun isod i nodi llinell amser ar gyfer eich diwrnod cyfartalog yn gweithio gartref.
Trafodaeth
A ydych yn cynnwys digon o amser ar gyfer egwyliau o’r sgrin, treulio amser tu allan, neu gyfathrebu â phobl eraill? Os nac ydych, ceisiwch wneud y gweithgareddau hyn yn rhan o'ch diwrnod.