Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Cyflwyniad

Yn y cwrs hwn, byddwch yn darganfod y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer ymuno â'r gweithlu hybrid. O ddod o hyd i swydd, i'ch diwrnod cyntaf yn y swydd, i reoli eich lles yn wyneb newid.

Yn 2005 diffiniodd Halford weithio hybrid fel:

'Being employed to work both at home and also in an organisational setting, using ICTs to maintain workloads and relationships across both domestic and organisational spaces.'

(Halford, 2005, t. 20).

Er bod y diffiniad o weithio hybrid yn parhau i fod yn weddol debyg yn y 2020au, mae band eang cyflymach, gwe-gamerâu a meicroffonau o ansawdd gwell, a llwyfannau cyfathrebu a chyfarfod mwy datblygedig yn golygu bellach mae gan weithio hybrid y potensial i fod yn brofiad mwy syml ac effeithlon.

Fodd bynnag, roedd gweithio hybrid yn dal i fod yn ymarfer anghyffredin, hyd yn oed hyd ddiwedd y 2010au. Dim ond pandemig COVID-19 a gynyddodd niferoedd y gweithwyr hybrid, â’r cyfnodau clo yn gorfodi llawer o bobl i weithio o adref os gallent. Bron dros nos, cododd y boblogaeth gweithio o bell yn y DU o 5% i bron 50% (Felsted a Reuschke, 2020). Roedd hyn yn amlwg yn newid dramatig i lawer o weithwyr a'u haelwydydd, a bu'n rhaid i sefydliadau ruthro i addasu i'r cyfnod newydd hwn o weithio. Daeth cyfarfodydd ar-lein wythnosol, gwiriadau 'mewngofnodi', a negeseuon rhithwir cyflym i gyd yn fwy cyffredin, ac o fewn ychydig fisoedd roedd y ffordd roedden ni'n gweithio wedi newid am byth.

Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn yn rhan o’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .