2 Gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid
Mewn sawl ffordd, ni ddylai gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid fod yn wahanol i unrhyw gais arall. Mae bron yn sicr y bydd angen CV arnoch, ac mae angen iddo gwmpasu'r pwyntiau sylfaenol allweddol – addasrwydd ar gyfer y swydd, bod yn rhagweithiol, sgiliau, a thystiolaeth (UCAS, 2022).
Yn bennaf, mae angen i chi gyfateb eich CV â'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani, gan ddangos pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl. Os yw'r swydd ddisgrifiad yn sôn am sgiliau allweddol penodol, cofiwch eu cynnwys yn eich CV. Mae cyflogwyr yn chwilio am gymysgedd o allu technegol – e.e. y pethau y gallwch eu 'gwneud', boed hynny'n datblygu cronfeydd data, yn cyfrifo cyfesurynnau, neu’n ysgrifennu adroddiadau – a sgiliau 'meddal', fel gwaith tîm, cyfathrebu, arwain, ac ymwybyddiaeth fasnachol.