Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Cyfweliadau ar-lein

Wrth wneud cais am swydd mewn gweithle hybrid, yn aml byddwch yn cael gwahoddiad i gyfweliad ar-lein. Bydd rhai cyflogwyr yn cynnal pob cyfweliad ar-lein, tra gall cyflogwyr eraill ofyn i chi wneud profion cymhwysedd ar-lein fel rhan o'r broses ddethol, cyn cynnal y rownd gyntaf o gyfweliadau ar-lein ac yna eich gwahodd i'r swyddfa. Y naill ffordd neu'r llall, mae’n hollbwysig paratoi.

  • Gwnewch yn siŵr fod popeth yn edrych yn daclus yn eich gweithle rhithwir.

  • Darganfyddwch pa lwyfan neu gymhwysiad y bydd eich cyfweliad ar-lein yn ei ddefnyddio ac yna ymgyfarwyddwch ag ef trwy lawrlwytho'r ap a phrofi eich cysylltiad â ffrind.

  • Os ydych chi'n defnyddio meddalwedd ar sail porwr yn hytrach nag ap, gwnewch yn siŵr bod eich porwr gwe wedi'i ddiweddaru ac yn bodloni unrhyw ofynion cydweddoldeb.

  • Defnyddiwch we-gamera o ansawdd da, fel eich bod yn cael eich gweld yn glir, a gwnewch yn siŵr bod eich meicroffon yn gweithio.

  • Ceisiwch sicrhau eich bod mewn lleoliad tawel, heb unrhyw bethau sy'n tynnu sylw neu’n torri ar draws. Os ydych chi'n byw â phobl eraill, rhowch wybod iddynt eich bod yn cael eich cyfweld. Os oes gennych anifeiliaid anwes, gwnewch yn siŵr eu bod mewn rhan arall o'ch cartref, os yn bosibl.

Trwy gael gofod cyfweliad rhithwir sydd wedi'i baratoi'n dda, byddwch yn gwella'ch siawns o wneud argraff gyntaf wych ar y cyfwelydd.

Mae ymchwilio'n dda i'r cwmni, a pharatoi ar gyfer cwestiynau cyfweld tebygol, yn syniad da iawn. Yn y fideo canlynol, mae Zainab a Ploy o iungo Solutions yn disgrifio eu profiadau cyfweliad, gan gynnwys awgrymiadau i ymgeiswyr niwrowahanol.

Download this video clip.Video player: hyb_8_2022_sep102_preparing_for_interviews_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

A oedd unrhyw dechnegau defnyddiol y mae Zainab a Ploy yn sôn amdanynt yn y fideo a allai eich helpu?

Dylech ysgrifennu popeth rydych yn meddwl y byddai'n rhaid i chi ei wneud yn y swydd. Dylai'r swydd ddisgrifiad eich helpu i wneud hyn hefyd. Paratowch atebion, gan ddangos sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn cyd-fynd â phob un agwedd o'r swydd. Er enghraifft, os yw ‘cyfathrebu â chleientiaid’ yn un o rannau'r swydd, paratowch ateb sy'n esbonio sut rydych wedi cael profiad o gyfathrebu â chleientiaid yn y gorffennol, a sut mae’ch sgiliau cyfathrebu yn eich gwneud yn ymgeisydd perffaith ar gyfer y swydd newydd hon.

Yn ogystal â pharatoi atebion ar sail sgiliau, dylech baratoi atebion cyfweliad generig rhag ofn y gofynnir cwestiynau cyfweliad clasurol i chi fel y rheiny a ddangosir yn Nhabl 1.

Tabl 1 Cwestiynau cyfweliad clasurol
'Pam wyt ti eisiau'r swydd yma?' Dylai’ch ateb arddangos sut rydych yn bodloni’r disgrifiad swydd, a pham rydych eisiau gweithio i'r sefydliad hwnnw.
'Beth yw dy wendid mwyaf?' Dylai’ch ateb arddangos ymwybyddiaeth o’ch gwendid, sut rydych yn lliniaru'r effaith, a sut y gellir ei ddefnyddio fel cryfder.
'Pa dri gair fyddet ti’n dewis i ddisgrifio dy hun?' Meddyliwch pam y dewisoch chi'r geiriau, a cheisiwch gael enghreifftiau oherwydd efallai y gofynnir i chi ehangu ar y rhain.

Mae'n debyg y gofynnir o leiaf un neu ddau o'r rhain i chi yn ystod y cyfweliad, ac os oes gennych ateb da wedi'i baratoi, bydd gennych siawns llawer gwell o gael y swydd.

Dylech ymarfer â ffrind neu aelod o'r teulu. Gofynnwch iddynt ofyn cwestiynau gwahanol i chi am y swydd, ac ymarferwch ateb o'u blaenau. Weithiau gallwch gael ateb gwych wedi'i ysgrifennu, ond pan fyddwch yn ceisio ei ddweud yn uchel mae'n swnio'n ofnadwy. Ymarfer ateb cwestiynau yn uchel yw’r unig ffordd y byddwch yn gallu paratoi'n iawn ar gyfer cyfweliad go iawn.