8.2 Recognising when you need support
Weithiau gall pethau fynd yn llethol yn y gwaith ac efallai eich bod yn teimlo eich bod yn cael trafferth ymdopi â phwysau gwaith, neu efallai’r ffaith eich bod yn teimlo'n unig yn gweithio mewn amgylchedd hybrid anghyfarwydd.
Mae'n hollbwysig cofio nad ydych ar eich pen eich hun: bydd llawer o bobl yn teimlo fel hyn, a'r peth pwysicaf yw deall eich bod yn gallu gofyn am help unrhyw bryd. Yn eich swydd gallwch bob amser droi at eich rheolwr neu arweinydd tîm am gyngor a chefnogaeth; efallai y byddant yn gallu siarad trwy bethau â chi i weld sut gallant helpu.
Fel arall, efallai bydd tîm lles yn sefydliad sy’n gallu eich cefnogi. Beth bynnag bo’r achos, cofiwch siarad â'ch cydweithwyr a'ch rheolwr am eich teimladau os bydd pethau'n mynd yn anodd. Nid yw unrhyw swydd yn werth aberthu eich iechyd meddwl drosti.
Gweithgaredd 14 Gofalu am eich iechyd meddwl
Ewch i wefan Student Minds. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] Dyma elusen wych sydd â llawer o gymorth i fyfyrwyr a phobl ifanc, yn ogystal â llwyth o adnoddau gwych i unrhyw un sy'n teimlo'n unig neu angen cymorth ychwanegol.
Gwyliwch y fideo Working from home - taking care of your mental health ar YouTube (Trainer Bubble, 2020). Ysgrifennwch y prif bethau rydych wedi’u dysgu o’r clip byr.
I gael mwy o arweiniad ar reoli eich lles wrth weithio mewn model hybrid neu bell, archwiliwch y cwrs Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant sy'n rhan o'r casgliad hwn.