Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Ansicrwydd gwaith

Mae pawb yn wynebu ansicrwydd gwaith cyn dechrau swydd newydd. Sut fydd y rôl? Beth os na fyddaf yn gwybod beth i'w wneud? Pryd fyddaf yn cwrdd â’m cydweithwyr? Mae'r rhain i gyd yn bryderon dilys, a'r unig beth y gallwch ei wneud i helpu â’r rhain yw gwneud eich ymchwil. Efallai nad oes gennych syniad union am yr hyn y byddwch yn ei wneud, ond mae yna ambell beth y gallwch ei wneud i baratoi:

  • Gofynnwch - Dylech feddu ar wybodaeth gyswllt eich rheolwr neu'r tîm recriwtio, felly gallai anfon neges e-bost gyflym yn gofyn a oes unrhyw beth y dylech ymgyfarwyddo ag ef wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd pan fydd eich diwrnod cyntaf yn cyrraedd.

  • Y swydd ddisgrifiad - Ail-ymgyfarwyddwch â'r swydd ddisgrifiad, a ddylai gynnwys rhestr o'ch cyfrifoldebau neu dasgau sylfaenol. Os oes unrhyw beth ynddo nad ydych yn ei ddeall, ymchwiliwch iddo. Dylech gael eich dysgu beth i'w wneud beth bynnag, ond nid oes unrhyw niwed ennill y blaen.

  • Ewch i wefan y cwmni – Efallai yr ymddengys yn amlwg, ond dylai gwefan y cwmni ddweud wrthych bopeth am yr hyn y mae'r sefydliad yn ei wneud, ac efallai y bydd yn cynnwys gwybodaeth am eich rôl benodol hyd yn oed. Mae deall y cwmni'n hollbwysig i lwyddiant mewn unrhyw swydd!

Cofiwch, ni fyddwch byth yn gwybod popeth am y swydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn dysgu llawer yn ystod yr wythnosau a'r misoedd cyntaf, ar ôl i chi gyrraedd. Fodd bynnag, nid yw'n syniad drwg bod yn barod, a gall hyn helpu i leddfu unrhyw ansicrwydd gwaith y gallech ei gael cyn dechrau!