Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Casgliad

Rydym yn gobeithio bod y cwrs hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Mae gweithio hybrid yn dal i fod yn ffenomen gymharol newydd i fwyafrif y boblogaeth, ac rydym yn dal wrthi’n dod i ddeall yr ymarferion a'r prosesau gorau i helpu gweithwyr i ddod o hyd i’w ffordd trwy'r byd newydd hwn.

Ar ôl darllen ein cyngor, mae'n bwysig cymryd pethau i'ch dwylo eich hun yn awr. Gwnewch eich ymchwil eich hun, darllenwch am y sefydliad rydych yn gweithio iddo, neu hoffech weithio iddo yn y dyfodol, datblygwch y sgiliau rydych yn eu hadnabod nad ydych yn meddu arnynt o ran gweithio digidol a chydweithredol, a gwnewch ymdrech ychwanegol i gyfathrebu â'ch tîm newydd. Gall dechrau swydd newydd fod yn frawychus, ond â’r paratoi priodol, byddwch yn gallu sicrhau trosglwyddiad llyfn a llwyddiannus.

Gweithgaredd 15 Ailedrych ar eich blaenoriaethau

Timing: 5 munud

Edrychwch yn ôl i Weithgaredd 1, lle gwnaethoch restru'r canlyniadau dysgu yn nhrefn pwysigrwydd i chi. A yw’ch blaenoriaethau'n dal i fod yr un fath neu a ydynt wedi newid? Pa rai, os o gwbl, allech chi archwilio ymhellach yn eich rôl newydd?

Ar ôl i chi setlo yn eich rôl newydd, pan nad yw'r amgylchedd gwaith hybrid mor heriol mwyach, gallwch ddechrau chwilio am ffyrdd newydd o achosi budd i'ch sefydliad a gwneud argraff gadarnhaol ar eich rheolwr neu'ch cyflogwr.

Mae syniad 'arweinyddiaeth drawsnewidiol', er enghraifft, yn awgrymu y dylai rheolwyr geisio hyrwyddo prosesau arweinyddiaeth anffurfiol a gwneud penderfyniadau cyflym o fewn timau (Uhl-bien et al., 2007). Os gallwch ddechrau arddangos rhinweddau arweinyddiaeth, a dod yn arweinydd 'anffurfiol' mewn rhai tasgau tîm, dyma rywbeth y mae llawer o sefydliadau'n ei werthfawrogi’n fawr a allai eich helpu i wneud cynnydd ymhellach yn y blynyddoedd i ddod. Un enghraifft yn unig yw hon o rywbeth mae rheolwyr yn chwilio amdano yn eu gweithwyr. Gallwch ddod o hyd i lawer mwy o enghreifftiau o ddamcaniaethau arweinyddiaeth a strategaethau gwerth-ychwanegol ar-lein os oes gennych ddiddordeb.

Mae’r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn cynnwys cyrsiau ac adnoddau am ddim i'ch helpu i lywio byd gwaith. Byddwch yn siŵr o archwilio'r wefan – ni wyddoch pa sgiliau neu wybodaeth newydd y gallech eu hennill a allai gefnogi cynnydd eich gyrfa.