4 Diwylliant sefydliadol
Un o rannau mwyaf hanfodol dechrau rôl newydd, boed mewn gweithle hybrid neu beidio, yw deall yn union beth sy'n ddisgwyliedig ohonoch. Gellir diffinio diwylliant sefydliadol fel y ffordd y caiff gwaith ei gyflawni mewn sefydliad (Atkinson, 1990). Gellir ystyried bod diwylliant yn ymgorffori gwerthoedd sefydliad, yn enwedig yn y ffordd mae'n gweithredu (Johnson, 2013). Mae'r diffiniadau hyn yn arddangos pa mor bwysig y gall diwylliant fod i brosesau sylfaenol cwmni, ac felly mae'n bwysig cael dealltwriaeth glir o ddiwylliant eich sefydliad.
Mae Damcaniaeth Gwe Ddiwylliannol (Cultural Web Theory) Johnson a Scholes (1992) yn awgrymu bod chwe ffactor cysylltiedig sydd, o'u cyfuno, yn cynhyrchu patrwm diwylliannol sefydliad:
Er bod hwn yn ddull eithaf academaidd o weithredu, yn amlwg mae ganddo nifer o oblygiadau ymarferol, ac wrth ddefnyddio'r We Ddiwylliannol fel enghraifft, efallai y gallai fod yn fuddiol ceisio dadansoddi gwahanol agweddau eich sefydliad yn ystod misoedd cynnar eich cyflogaeth:
Beth yw'r defodau a threfnau cyffredin y mae angen eu harsylwi? (galwadau fideo dyddiol, cyfarfodydd tîm wythnosol, ac ati)
Beth yw'r strwythurau pŵer a lle rydych yn ffitio? (rheolwyr, i bwy ydych yn adrodd, lefelau dirprwyaeth i bob rôl, ac ati)
Beth yw straeon neu werthoedd y sefydliad a sut gallwch sicrhau eich bod yn llywio'r rheolau 'anysgrifenedig' hyn?
Yn iungo Solutions, mae Jessica Leigh Jones MBE yn sôn am y troad tuag at 'intrapreneuriaeth' mewn byd hybrid. Yn y fideo nesaf mae Jessica a Ploy yn egluro sut maent yn ceisio cynyddu amrywiaeth y pwll talent a harneisio gwahanol safbwyntiau i fynd â'r cwmni i'r lefel nesaf.
Transcript
Mae eich llwyddiant mewn unrhyw rôl yn dibynnu ar eich gallu i ddeall disgwyliadau eich sefydliad, ac integreiddio eich hunan dilys â'r diwylliant sefydliadol. Bu cynnydd, yn y blynyddoedd diweddar, mewn sefydliadau sy'n blaenoriaethu amrywiaeth a chynhwysiant, i feithrin creadigrwydd gweithwyr ac ymreolaeth o ran sut mae gwaith yn cael ei wneud. Felly rydych yn ceisio integreiddio sy'n fuddiol i bawb rhwng yr hyn sydd gennych i'w gynnig a'r hyn sydd gan y diwylliant sefydliadol i'w gynnig i chi, yn hytrach na chymhathu yn unig. Os gallwch wneud hyn, bydd yn gwneud eich profiad gwaith yn llawer llyfnach, a gall eich helpu i ffitio i'ch rôl newydd yn gyflym.
Gweithgaredd 8 Dadansoddi diwylliant sefydliad
Myfyriwch ar y fideo a meddyliwch am sefydliad rydych chi wedi bod yn rhan ohono (cymdeithas, prifysgol, ysgol, swydd). Gan ddefnyddio'r ddamcaniaeth We Ddiwylliannol, dadansoddwch y sefydliad hwn yn gryno. Ystyriwch, er enghraifft, beth yw'r symbolau, y straeon, y strwythurau pŵer, a’r defodau sy'n gyffredin yn y sefydliad hwn? Beth oedd eu dull o ymdrin â chynhwysiant, a sut gallwch ddysgu gan bobl eraill sydd â gwahanol brofiad a phersbectif?