2.1 Datblygu a dogfennu eich sgiliau
Er y gellir caffael gallu technegol trwy gyrsiau hyfforddi, profiad gwaith ffurfiol neu swyddi rhan-amser, gellir datblygu sgiliau meddal trwy waith gwirfoddol, gweithgareddau allgyrsiol, a phrosiectau personol. Sicrhewch eich bod yn dogfennu'r rhain, gan nodi enghreifftiau manwl o'r adeg rydych wedi arddangos pob sgil. Os gallwch ymgorffori gwybodaeth rifol, fel cyllideb roeddech yn ei rheoli, neu gynnwys ystadegau sy'n darlunio effaith eich sgiliau, bydd y dystiolaeth hon yn ategu eich honiadau.
Yn y fideo isod, mae tri chyfranwr o iungo Solutions – Zainab (wedi graddio’n ddiweddar, bellach yn ddadansoddwr cynnwys technegol), Ploy (swyddog gweithredol adnoddau dynol a recriwtio); a Jessica (cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr) – yn sôn am eu profiadau o chwilio am waith, datblygu sgiliau, y broses recriwtio, a phwysigrwydd bod yn rhagweithiol.
Transcript
Dylai’ch CV ddangos sut rydych chi'n gweithredu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd, boed hynny yn ystod eich astudiaethau neu yn eich amser hamdden. Bydd gweithgareddau fel cynnal blog arbenigol, gwneud gwaith gwirfoddol, a datblygu hobïau sy'n berthnasol i’r swydd yn helpu i ddangos eich meddylfryd dysgu gydol oes.
Mae Nick van Dam yn gynghorydd, awdur, siaradwr ac ymchwilydd ar ddysgu corfforaethol a datblygu arweinyddiaeth, â diddordeb brwd mewn sut mae unigolion yn dysgu a datblygu o fewn sefydliadau. Mewn darlith a roddodd yn 2016, bu'n trafod chwe elfen hanfodol meddylfryd dysgu gydol oes:
Canolbwyntio ar dwf
Dod yn feistr cyfresol
Ymestyn
Adeiladu brand personol
Perchen ar eich datblygiad
Gwneud yr hyn rydych yn ei garu a darganfod eich Ikigai [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] – eich 'rheswm dros fod'.
(Mae’r ddarlith lawn, 'Learn or Lose', ar gael ar YouTube os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio'r pwnc hwn ymhellach.)
Dros y degawdau, mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr wedi esblygu, wrth i ddisgwyliadau cleientiaid, technoleg, a sut mae pobl yn rhyngweithio â'u hamgylcheddau esblygu hefyd. Mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am bobl sy'n dangos meddylfryd dysgu gydol oes trwy symud o gymhwysedd dwfn mewn un maes arbenigol (a ddisgrifir weithiau fel set sgiliau siâp-T) i ddatblygu cymhwysedd dwfn mewn sawl maes (a ddisgrifir weithiau fel set sgiliau siâp-M).
Gellir dangos eich meddylfryd dysgu gydol oes, er enghraifft, trwy eich ymgysylltu â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, busnesau bach ar yr ochr, neu waith gwirfoddol/elusen rhan-amser. Mae angen i chi ddangos sut rydych chi'n bodloni gofynion cyflogwyr ond hefyd sut rydych chi'n ceisio datblygu eich hun.
Yn olaf, peidiwch ag anghofio sut mae pethau wedi newid yn y gweithle hybrid. Yn y fideo uchod, rhoddodd Jessica Leigh Jones gyngor am sgiliau allweddol ar gyfer sefydliadau sy'n-gweithio-o-unrhyw le. Gallai sôn am sgiliau hybrid allweddol fel trefnu, gweithio’n annibynnol, profiad o weithio'n rhithiol, a sgiliau digidol allweddol i gyd wneud gwahaniaeth enfawr i'ch cais.
Gweithgaredd 3 Pa sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau?
Darllenwch dudalen we UCAS What do employers look for in graduates? (UCAS, 2022) ac erthygl Prospects How to write a CV (Prospects, 2022).
Pa agweddau o'ch CV sydd angen eu diweddaru i arddangos y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gwirionedd? Ystyriwch sut y gallwch sicrhau bod eich CV yn gryno. Nid oes yn rhaid i chi ddisgrifio eich profiad yn fanwl, yn ôl Indeed dylai CV fod o gwmpas un i dair tudalen, gan ddibynnu ar eich profiad. Po fwyaf profiadol ydych chi, yr hiraf yw'r CV. (Indeed, 2022).