Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Mae dyfodol y gweithle'n parhau i ddatblygu, ac mae trawsnewid digidol yn cyflymu, gan ofyn am alluoedd, ymddygiadau a dealltwriaeth newydd yn y maes digidol. Mae'r rhaniad digidol wedi bod yn ehangu ac mae data'n dangos bod y bwlch sgiliau yn y DU yn tyfu gyda phrinder pobl â sgiliau digidol.

Mae gan bron bob swydd ryw elfen o sgiliau digidol ac arweinyddiaeth, ac os nad oes ganddi'r elfen honno eto, byddai'n ddoeth paratoi i'r dyfodol a sicrhau eich cyflogadwyedd drwy gofleidio sgiliau digidol.

Dim ots pa oedran, sector neu broffil gweithio sydd gennych, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch er mwyn trawsnewid yn ddigidol a ffynnu mewn byd digidol. Gallai rhai deimlo eu bod yn dysgu iaith newydd ac yn deall am ddiwylliannau digidol newydd, ond i eraill gallai ymwneud yn llawer mwy â deall a datblygu eich galluoedd digidol presennol.



Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

After studying this course, you should be able to:

  • archwilio arferion a normau presennol eich sefydliad ynghylch gweithio'n ddigidol mewn amgylcheddau hybrid (e.e. o bell ac ar y safle)
  • disgrifio cyfrifoldeb ac ymddygiad digidol, gan gynnwys GDPR, data, diogelwch rhwydwaith a llesiant a chynhwysiant digidol
  • archwilio fframweithiau, adnoddau a thechnolegau ar gyfer datblygu galluoedd digidol
  • archwilio sut y gall sgiliau digidol fod yn fwy cynaliadwy a sut y gall sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am gynaliadwyedd digidol
  • cydnabod bod trawsnewidiad digidol yn parhau ac ystyried dulliau ar gyfer cynllunio ar gyfer newid digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2022

Wedi'i ddiweddaru: 16/12/2022

Hepgor Graddau y Cwrs