Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Teitlau a dyletswyddau

Yn y DU, defnyddir nifer o dermau ar hyn o bryd i ddisgrifio'r rhai sy'n rhoi cymorth dysgu i blant. Byddai'n gamarweiniol awgrymu bod y termau hyn yn disgrifio'r un rolau a chyfrifoldebau. Yn hytrach, maent yn dangos gwahaniaethau pwysig mewn rolau ac maent yn arwyddocaol am eu bod yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o waith y mae staff cymorth dysgu yn ei wneud.

Ers y 1980au, mae rôl ddyddiol llawer o gynorthwywyr addysgu ledled y DU wedi newid cryn dipyn. Mae pwyslais pendant llywodraethau ar lythrennedd a rhifedd wedi arwain llawer o gynorthwywyr addysgu i gyflawni dyletswyddau cysylltiedig ag addysgu ('teaching-related') o'r fath - gwaith a fyddai ond wedi cael ei wneud gan athro cymwys yn y gorffennol. Mae Barbara Lee (2003, t. 27) yn nodi'r newid ran cymorth anuniongyrchol ('indirect support') (h.y. cynhyrchu deunyddiau a rheoli adnoddau) a chymorth uniongyrchol ('direct support') (h.y. gweithio gyda phlant unigol a grwpiau bach).

Er gwaethaf y newid hwn mewn dyletswyddau, mae angen cyflawni tasgau i gynnal a chadw'r amgylchedd dysgu o hyd, gan mai'r rhain sy'n ei gwneud yn bosibl i addysgu a dysgu. Felly, mae'n briodol gofyn: pwy sy'n gwneud y gwaith hwn os yw cynorthwywyr yn treulio mwy o amser yn helpu plant i ddysgu? Efallai bod gennych rai syniadau ynglŷn â hyn. Efallai mai un ateb yw bod tasgau cynnal a chadw yn cael eu rhannu mwy rhwng athrawon, cynorthwywyr addysgu, gwirfoddolwyr a phlant.