Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.8 Cynorthwywyr addysgu yn Ewrop

Mae cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu cysylltiedig eraill yn gweithio hefyd mewn ysgolion i blant aelodau o luoedd arfog Prydain sydd wedi'u lleoli dramor, ysgolion mewn gwledydd Ewropeaidd eraill a thu hwnt mewn gwledydd fel UDA, Canada ac Awstralia. Yn 1998, tynnodd arolwg gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) sylw at rai rolau cymorth diddorol mewn ysgolion Ewropeaidd, ac mae'n werth ystyried y rhain yng ngoleuni rôl ddatblygol cynorthwywyr addysgu yn y DU. Fel y credai'r cymdeithasegydd Amitai Etzioni (1969, t.vi), drwy gymharu gallwn wella ein hymwybyddiaeth ('scope of awareness'). Nododd yr NUT yr enghreifftiau canlynol o rolau cymorth yn yr Iseldiroedd, Ffrainc a Gwlad Belg.

Yn yr Iseldiroedd, fel yn y DU, mae cynorthwywyr addysgu wedi gweithio mewn ysgolion cynradd ers tro, gan weithio'n aml yn y cefndir i gefnogi plant bach a'u hathrawon. Gellir cymharu eu rôl bresennol â rôl cynorthwywyr addysgu arbenigol yn Lloegr gan eu bod yn canolbwyntio ar helpu plant i ddysgu'n uniongyrchol, yn enwedig sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol.

Yn Ffrainc, ceir 'surveillants' (sydd rhwng 18 a 26 oed fel arfer) sy'n aml yn bwriadu dod yn athrawon. Yn draddodiadol, maent wedi helpu i oruchwylio disgyblion pan fyddant ar safle'r ysgol a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth. Fel rhan o'r rôl oruchwylio hon, maent hefyd yn cysylltu â rhieni. Yn fwy diweddar, mae eu rôl wedi ymestyn i roi cymorth i blant ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Maent wedi cael cyfrifoldebau ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) am gynnal a chadw offer a helpu plant i ddysgu. Mae yna hefyd 'aide-éducateurs’ (athrawon cynorthwyol) sy'n cyflawni rôl addysgu yn bennaf er mwyn helpu plant i ddysgu'n uniongyrchol a hwyluso gweithgareddau allgyrsiol.

Yng Ngwlad Belg, ceir ‘agents contractuels subventionnés’ (gweithwyr contract wedi'u sybsideiddio). Cânt eu recriwtio fel rhan o gynlluniau i leihau diweithdra a gallant gyflawni dyletswyddau gofal plant mewn lleoliadau cyn-ysgol neu helpu plant i ddysgu iaith dramor.