5 Casgliad
Un o nodau canolog yr uned hon oedd rhoi syniad i chi o sut mae cynorthwywyr addysgu yn rhan o ddatblygiad addysgol cyffrous. Rydym felly wedi gosod cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yng nghyd-destun twf eang gweithlu parabroffesiynol newydd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi nodi mai menywod sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o'r gweithlu hwn mewn ysgolion, wedi nodi rhesymau pam mae rhieni lleol yn enwedig yn cael eu denu i weithio mewn ysgolion ac wedi tynnu sylw at y cyfraniad gwerthfawr y mae cynorthwywyr addysgu yn ei wneud ar sail eu profiadau bywyd a'u profiadau gwaith blaenorol. Er bod llawer o orgyffwrdd rhwng rolau cynorthwywyr ac athrawon (beth bynnag fo'u teitl a ble bynnag y byddant yn gweithio yn y DU), rydym wedi awgrymu hefyd bod gwahaniaethau pwysig rhyngddynt. Mae cynorthwywyr addysgu yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o gyfrifoldebau. Mae rolau athrawon a chynorthwywyr addysgu yn parhau i orgyffwrdd fwyfwy dros amser ac mae diffiniadau mwy creadigol ar gael o gyfraniad unigryw cynorthwywyr addysgu. Gallwn ddisgwyl y bydd y rolau hyn a datblygiadau yn y gweithlu yn parhau i newid, o gofio'r ffordd y mae llywodraethau olynol yn cyflwyno polisïau newydd a'r ffordd y mae ymarfer yn newid mewn addysg gynradd.