Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.7 Datblygu cynorthwywyr addysgu yng Nghymru

Drwy ei Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth, sefydlodd Llywodraeth Cymru 'Hwb' a 'Dysgu Cymru' yn 2012. Amgylchedd dysgu rhithwir i Gymru gyfan yw 'Hwb', sy'n cynnwys adnoddau ar-lein i ymarferwyr addysg. (https://hwb.wales.gov.uk/ home/ Pages/ Home.aspx [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] )

Mae Hwb yn cynnwys 'Dysgu Cymru', sef gwefan a gynlluniwyd i gynorthwyo amrywiaeth o bobl yn y gweithlu ysgolion, gan gynnwys cynorthwywyr cymorth dysgu yng Nghymru. (http://learning.wales.gov.uk/ ?skip=1&lang=cy)

Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cynllun gweithredu i hyrwyddo rôl a hybu datblygiad staff cymorth mewn ysgolion yng Nghymru sydd ar gael yn 'Dysgu Cymru' (Llywodraeth Cymru, 2013a)

Nod y cynllun yw:

  • cyflwyno cyfres integredig o safonau proffesiynol/galwedigaethol ar gyfer staff cymorth dysgu yng Nghymru
  • diwygio'r safonau proffesiynol sy'n gysylltiedig â statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)
  • cysoni rhaglenni sefydlu ar gyfer staff cymorth dysgu mewn ysgolion er mwyn cadarnhau disgwyliadau a rolau
  • cyflwyno polisi model rheoli perfformiad newydd ar gyfer staff cymorth dysgu
  • targedu hyfforddiant a datblygiad staff cymorth dysgu ochr yn ochr â staff ysgol eraill, fel rhan o strategaethau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ehangach.

Ochr yn ochr â'r ymrwymiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i anghenion datblygu proffesiynol cynorthwywyr cymorth dysgu, cafwyd manylion ynglŷn ag amrywiaeth o adnoddau a fydd yn helpu i wneud hyn. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys rhaglen gymorth genedlaethol i gyflawni'r fframwaith llythrennedd a rhifedd (FfLlRh), adnoddau i ymarferwyr werthuso a gwella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu hunain, adnodd hunanasesu ar-lein, sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol (CDPau) a'r 'Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg'. Mae'r Cynllun Sabothol hwn yn cynnig cwrs Cymraeg lefel mynediad am bum wythnos i bob ymarferydd cynradd sy'n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i'w helpu i ddatblygu geirfa a sgiliau ieithyddol sy'n berthnasol i ymarfer cynradd.

Roedd y Cynllun gweithredu i hyrwyddo rôl a hybu datblygiad staff cymorth mewn ysgolion yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod 'yn hanesyddol, ychydig o wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu am staff cymorth [dysgu yng Nghymru] sy’n ffurfio cyfran sylweddol o’r gweithlu mewn ysgolion (44 y cant). Mae hyn yn golygu nad oes fawr o wybodaeth am eu rolau presennol, y lefelau cyflog a’u cymwysterau a’u hanghenion datblygu, i lywio ymyriadau a datblygiadau polisi.' Mae'r cynllun yn nodi bwriad i gasglu mwy o ddata ystadegol am gynorthwywyr cymorth dysgu yng Nghymru, fel y gall Llywodraeth Cymru '[gyflawni'r] ymrwymiad i staff cymorth mewn ysgolion yng Nghymru [a] darparu gweithlu hynod fedrus i holl ysgolion Cymru.' (ibid, t.4). Tra bod cynorthwywyr cymorth dysgu yng Nghymru yn 'cefnogi athrawon a gweithio'n uniongyrchol â dysgwyr', bu cynnydd hefyd, fel y gwelwyd mewn rhannau eraill o'r DU, o ran 'rolau cefnogi eraill y mae ysgolion yn dibynnu arnynt i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei gweinyddu’n effeithiol, [sy'n] rhyddhau athrawon a phenaethiaid i ganolbwyntio ar eu pwrpas craidd, sef rhoi gwasanaeth addysgu a dysgu o safon uchel.' (ibid, t.2)