Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Edrych i'r dyfodol

Person dewr fyddai'n ceisio darogan dyfodol unrhyw faes gwaith. Fodd bynnag, wrth gasglu adnoddau ar gyfer yr uned hon, rydym wedi cael syniad da o sut mae cynorthwywyr addysgu yn gweithio ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd ledled y DU. Rydym hefyd mewn cysylltiad â nifer fawr o gynorthwywyr sy'n astudio cyrsiau gyda'r Brifysgol Agored ac yn nodi sut maent yn ysgrifennu am eu gwaith dyddiol. Mae hyn yn rhoi syniad i ni o sut mae'r rôl yn datblygu a'r trywydd y gallai ei ddilyn yn y dyfodol.

Yn sicr, ers i'r Brifysgol Agored lansio'r cymhwyster uwch penodol cyntaf i gynorthwywyr addysgu yn 1995 (Y Dystysgrif Cynorthwyydd Athrawon Arbenigol), mae cynorthwywyr wedi dod yn rhan fwyfwy amlwg o'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud. Yn hyn o beth, byddem yn cynnwys y tasgau canlynol a neilltuwyd i athrawon yn draddodiadol:

  • cynllunio gwaith dysgu plant
  • addysgu gwersi
  • gwerthuso ac asesu'r hyn a ddysgwyd
  • addysgu dosbarthiadau cyfan
  • cydweithio â rhieni ynglŷn â'u plant a'u gwaith dysgu
  • rheoli ac arfarnu staff.

Wrth gwrs, nid yw pob cynorthwyydd addysgu yn gwneud yr holl bethau hyn. Mae rhai yn eu gwneud ar y cyd â mathau eraill o waith ysgol, fel paratoi adnoddau dysgu, goruchwylio amseroedd chwarae, rhedeg clybiau ar ôl ysgol a chasglu cofnodion ysgol. Mae'r amrywiaeth o dasgau a gyflawnir gan gynorthwywyr mor fawr nes y gall rhai cynorthwywyr addysgu deimlo nad ydynt, hyd yma, yn gwneud unrhyw rai o'r eitemau a restrir ond eu bod yn dal i gael eu defnyddio mewn ffyrdd pwysig eraill yn eu hysgol. Mae rhai cynorthwywyr addysgu, fodd bynnag, yn cyflawni'r chwe dyletswydd a restrir, yn enwedig cynorthwywyr addysgu profiadol ac uwch.

Wrth ysgrifennu'r uned hon, daeth yn amlwg i ni bod cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl sylweddol iawn mewn gwaith addysgu cymwys. Gellir ystyried hyn fel datblygiad cyson, ond tawel, dros amser. Mae hyn wedi digwydd yn bennaf ers canol y 1990au ond roedd llawer o gynorthwywyr addysgu cyn hynny yn cyflawni cyfrifoldebau addysgu (mewn realiti, os nad yn swyddogol), yn enwedig y rhai oedd yn gweithio gyda phlant y barnwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.

Mewn ysgolion lle caiff staff eu defnyddio mewn ffordd hynod o greadigol, mae'n ymddangos bod rolau newydd yn dod i'r amlwg ar gyfer cynorthwywyr addysgu y gellir eu cysylltu â'r canlynol:

  • cyfrifoldebau rheoli staff
  • cymwysterau arbenigol y gall cynorthwywyr addysgu eu cynnig i'w rolau weithiau
  • brwdfrydedd cynorthwywyr addysgu, ac felly eu gwybodaeth, o ran agwedd benodol ar y cwricwlwm.

Yn y tri maes uchod, mae cynorthwywyr addysgu yn ymgymryd â chyfrifoldebau y gall athrawon cymwys eu cyflawni.