Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cyfraniad a rolau

Yn eu gwerthusiad o'r ffyrdd y gall athrawon a chynorthwywyr addysgu gydweithio mewn timau, mae Hilary Cremin et al. (2003) yn awgrymu, er bod brwdfrydedd i ddarparu cymorth ychwanegol, mai ychydig o sylw a roddir i sut mae hyn yn gweithio mewn gwirionedd yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n wir bod staff cymorth dysgu wedi cael eu cyflwyno i ystafelloedd dosbarth heb dystiolaeth ymchwil glir i ddangos y gallant wneud gwahaniaeth i addysg plant, ond rhaid cydnabod hefyd fod bywyd yn aml yn datblygu'n gyflymach na'r cyflenwad o dystiolaeth ymchwil.

Fel y dywedwyd, caiff gwirfoddolwyr eu gwahodd yn aml i fynd i ysgolion er mwyn cynorthwyo athrawon, a chaiff cynorthwywyr addysgu eu cyflogi er nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol o reidrwydd (ond mae hyfforddiant mewn swydd yn gynyddol gyffredin). Fodd bynnag, fel y gwnaethom awgrymu hefyd, yn aml, mae gan wirfoddolwyr a chynorthwywyr addysgu brofiad anffurfiol perthnasol, galluoedd trosglwyddadwy a sgiliau greddfol a all gefnogi'r hyn a wnânt mewn ysgolion. Yn ogystal, mae synnwyr cyffredin yn awgrymu, pan fo gan ddosbarthiadau mawr o blant oedolion ychwanegol wrth law sy'n awyddus i'w helpu a'u cefnogi, y bydd hyn yn cael effaith ffafriol ar eu haddysg a'u datblygiad. Yn yr un modd, mae llawer o ysgolion yn mynd ati i annog rhieni i helpu eu plant gyda'u gwaith cartref.