Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Cyflwyniad

Mae cynorthwywyr addysgu, a staff cymorth dysgu tebyg, yn rhan sylweddol o weithlu sy'n gweithio ar draws y sector cyhoeddus. Cânt eu galw weithiau yn 'weithwyr parabroffesiynol', sef gweithwyr sy'n ategu ac yn cefnogi gwaith gweithwyr proffesiynol cymwys. Byddem ni'n dadlau, fodd bynnag, bod cynorthwyo addysgu yn broffesiwn ynddo'i hun sy'n aml yn gorgyffwrdd â rôl athrawon ac yn debyg iddi. Ers iddynt gael eu cyflwyno gyntaf yn y 1960au fel 'helpwyr' a 'staff ategol', mae cynorthwywyr addysgu wedi dod yn rhan hanfodol o addysg plant mewn ysgolion cynradd ledled y DU a thu hwnt. Pa bynnag rôl y byddwch yn ei chwarae mewn ysgolion i gynorthwyo plant i ddysgu, rydych yn rhan o'r datblygiad hanesyddol hwn.

Er hwylustod, rydym wedi defnyddio'r term cyffredinol 'cynorthwyydd addysgu' drwy gydol yr uned hon. Rydym yn ffafrio'r term hwn dros y talfyriad 'CA', sydd yn lleihau statws y rôl yn ein barn ni. 'Cynorthwyydd addysgu' yw term dewisol y llywodraeth ar hyn o bryd, ond mae llawer o dermau eraill yn cael eu defnyddio ledled y DU. Rydym felly yn defnyddio 'cynorthwyydd addysgu' i gyfeirio at y mathau amrywiol o wirfoddolwyr ac oedolion cyflogedig (heblaw am athrawon cymwys) sy'n rhoi cymorth dysgu i blant oedran cynradd yn y DU.

Un o brif nodweddion y gweithlu cynorthwywyr addysgu yw ei fod yn amrywiol iawn - nid yn unig o ran teitlau swyddi a chyfrifoldebau cysylltiedig, ond hefyd o ran profiad blaenorol, cymwysterau ffurfiol, cyfleoedd i gael hyfforddiant mewn swydd, dulliau gweithio a'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd. Drwy recriwtio cynorthwywyr cyflogedig a gwirfoddolwyr, daw ysgolion i gysylltiad amrywiaeth o oedolion, yn ychwanegol at athrawon cymwys, sydd â llawer i'w gynnig i blant. Mae eu gwaith yn cyfoethogi profiadau dysgu'r plant yn yr ysgol. Nod yr uned hon yw adlewyrchu'r amrywiaeth hwnnw a'ch annog i feddwl am eich rhan yn y rolau amrywiol y gall cynorthwywyr addysgu eu chwarae.

Un o nodweddion diddorol y gweithlu cynorthwywyr addysgu yw ei fod yn cynnwys llawer mwy o fenywod na dynion. Pam mae'r gwaith hwn yn atyniadol i fenywod, yn enwedig llawer ohonynt sy'n famau, a pham mae cyn lleied o ddynion? Dyma un o'r themâu y byddwch yn eu hystyried yn yr uned hon.

Fel athrawon a'u gwaith, mae angen llawer o sgiliau ar gynorthwywyr addysgu i weithio gyda phlant ac, yn aml, mae mwy nag un ffordd o fod yn effeithiol. Yn ddiweddarach yn yr uned hon, byddwn yn edrych ar sut mae un cynorthwyydd addysgu, Caroline Higham, yn gweithio ac yn ystyried sut mae'n cydweithio ag athro dosbarth ac yn defnyddio ei hymarfer unigryw mewn gwers mathemateg.

Mae cynorthwywyr addysgu yn adnodd hanfodol a sylweddol iawn mewn ystafelloedd dosbarth cynradd, i'r graddau ei bod yn anodd dychmygu sut y gallai ysgolion ymdopi hebddynt.

Mae'r uned astudio hon yn ddyfyniad wedi'i addasu sy'n berthnasol i gwrs y Brifysgol Agored E111 Supporting learning in primary schools.

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar Saesneg ar OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .