Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Datblygiad cynorthwywyr

Ffigur 1 ”Adult helpers in my school” gan Emily (6 oed)

Er mwyn deall rôl cynorthwywyr addysgu yn well, mae'n ddefnyddiol ystyried sut mae cynorthwywyr yn fwy cyffredinol yn cefnogi gwahanol fathau o weithwyr proffesiynol. Fel cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion, mae rolau tebyg i'w gweld mewn meysydd gwaith eraill hefyd. Er enghraifft, yn y gwasanaeth iechyd, mae nyrsys yn cael cymorth gan gynorthwywyr gofal iechyd ac mewn gwaith cymdeithasol, mae cynorthwywyr personol yn rhoi cymorth i blant mewn gofal (plant sy'n derbyn gofal/’looked after children'). Mae Ian Kessler (2002) yn awgrymu'r rhesymau canlynol dros y datblygiadau hyn:

  • In many areas of the UK, there have been growing problems recruiting and retaining qualified professionals such as nurses and teachers.
  • There has been, from successive governments, a wish to ‘modernise’ public services to make them more responsive to their ‘clients’ and more cost efficient.
  • There is a belief that established professional attitudes and practices should be challenged and improved, and that professionals should develop increased flexibility in their ways of working.

Yn ogystal â'r rhesymau cyffredinol hyn dros gyflogi cynorthwywyr, mae dau brif ffactor i egluro pam y cânt eu cyflogi mewn ysgolion: yn gyntaf, mae'r ymdrech i ddarparu addysg gynhwysol wedi arwain at benodi cynorthwywyr cymorth dysgu er mwyn rhoi cymorth personol i blant ag anghenion dysgu ac ymddygiadol cymhleth mewn ystafelloedd dosbarth prif ffrwd; yn ail, ers i awdurdodau lleol a'r llywodraeth ddatganoli cyllidebau i ysgolion, gall penaethiaid gyflogi mwy o gynorthwywyr addysgu fel ffordd gost-effeithiol o roi cymorth i athrawon dosbarth sydd dan bwysau.