Glossary
- dehongliad trychinebus
- Term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut mae person sydd ag anhwylder panig yn camddehongli (camddeall) teimladau corfforol fel pethau ofnadwy.
- goranadlu
- Mae hyn yn digwydd pan mae unigolyn yn anadlu’n gyflymach neu’n ddyfnach na’r arfer gan arwain at ddiffyg carbon deuocsid yn y corff ac amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys teimlo’n benysgafn.
- panig
- Teimlad cyflym o ofn neu bryder na ellir ei reoli.
- pyliau o banig
- Term diagnostig ar gyfer math o brofiad o banig sy’n cynnwys cyfuniad o ‘symptomau’ corfforol, gwybyddol ac emosiynol.
- anhwylder panig
- Diagnosis seicolegol sy’n cael ei ddefnyddio i labelu profiad pobl sy’n cael pyliau o banig yn aml.