1.1 Symptomau panig
Mae diagnosis seiciatrig yn cynnwys rhestr o symptomau; os oes gan y claf nifer penodol o symptomau, yna mae’n cael diagnosis ohono. Nawr, byddwch yn edrych ar symptomau diagnostig pyliau o banig yn ôl DMS-5.
Gweithgaredd 2 Symptomau pyliau o banig
a.
Teimlo ar fin crio
b.
Crychguriadau, calon yn curo’n galed neu gyfradd curiad y galon uwch
c.
Chwysu
d.
Crynu neu ysgwyd
e.
Teimlo panig
f.
Gweld pethau
g.
Teimlo’n fyr eich gwynt neu eich bod yn mygu
h.
Teimlo eich bod yn tagu
i.
Cur pen
j.
Poen neu deimlad anghysurus yn y frest
k.
Teimlo’n sâl neu boen yn yr abdomen
l.
Teimlo ysfa i siarad yn gyflym
m.
Teimlo’n benysgafn, yn ansefydlog ar eich traed neu eich bod am lewygu
n.
Teimlo’n unig
o.
Teimlo nad yw’r pethau o’ch cwmpas yn wir neu deimlo eich bod y tu allan i’ch corff
p.
Ofn marw
q.
Pryder dirfodol
r.
Ofn colli rheolaeth neu wallgofi
s.
Teimlo’n hynod o ofnus
t.
Paraesthesia (diffyg teimlad neu gosi)
u.
Teimlo’n oer neu’n boeth
The correct answers are b, c, d, g, h, j, k, m, o, p, r, t and u.
Discussion
Oeddech chi wedi’ch synnu gan unrhyw rai o’r atebion cywir neu anghywir? (Er enghraifft, nad yw teimlo panig ar y rhestr o symptomau?) Hefyd, sylwch fod y symptomau’n gymysgedd o deimladau corfforol annymunol (ysgwyd, calon yn curo’n gyflym, chwysu, teimlo’n benysgafn), teimladau a meddyliau (ofni eich bod yn marw neu’n gwallgofi).
Yr atebion ‘cywir’ yw’r rheini sydd wedi’u diffinio gan DSM5, ond mae llawer o ddadlau ynghylch a yw’r rhestr o’r symptomau yn ‘gywir’ neu’n briodol a bod profiadau pawb yn gallu bod yn wahanol.