Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.5 Rôl prosesu emosiynau

Hyd yma rydych wedi bod yn dysgu am fodel gwybyddol panig sy’n ceisio deall sut mae meddyliau (ee camddehongliadau trychinebus) ac ymddygiad (ee osgoi) yn gallu gwaethygu panig.

Damcaniaeth arall yw y gallai’r ffordd y mae pobl yn ymateb i'w hemosiynau fod yn allweddol yng nghyswllt anhwylder panig (Baker, 2011). Mae’r ddamcaniaeth hon yn awgrymu bod pobl sy’n profi anhwylder panig yn dueddol i wneud y canlynol:

  • ceisio rheoli eu hemosiynau drwy eu cuddio neu eu hatal
  • peidio â datgan (mewn geiriau neu weithredoedd) na rhannu eu teimladau gydag eraill
  • canolbwyntio ar y teimladau corfforol sy’n gysylltiedig ag emosiwn yn hytrach na chanolbwyntio ar yr emosiwn ei hun
  • cael trafferth labelu emosiynau
  • ddim yn cysylltu emosiynau â’r digwyddiadau sy’n eu hachosi.

Mae Baker yn dadlau bod y patrwm hwn o ddelio ag emosiynau’n dangos anhawster wrth brosesu emosiynau. Mae hefyd yn dadlau bod y ffordd hon o brosesu emosiynau’n arwain yn aml at y pwl o banig cyntaf y bydd unigolyn yn ei brofi oherwydd mae’r patrwm hwn o ddelio/beidio â delio ag emosiynau yn arwain at unigolyn yn methu â sylwi ei fod dan straen:

Mae straen, sy’n digwydd fisoedd cyn y pwl cyntaf o banig heb i’r dioddefwr sylwi yn aml, yn gallu adeiladu at lefel lle mae’n achosi pwl o banig yn hawdd. Er mwyn egluro hyn i gleifion yn ystod therapi seicolegol, dwi’n ei gymharu â dŵr yn adeiladu y tu ôl i argae. Mae’r dŵr yn codi’n araf dros ychydig o fisoedd ac mae’r pwysau’n adeiladu drwy’r amser. Ar bwynt penodol, bydd gormod o bwysau a bydd yr argae yn rhoi’n gyflym. Bydd colofnau enfawr o ddŵr yn saethu trwy’r argae sydd wedi torri gan achosi difrod i’r tir ymhellach draw. Mae panig yn debyg i hyn: mae’n gyflym ac yn ddinistriol. Heb i’r dioddefwr wybod, mae’r pwysau wedi bod yn adeiladu ers wythnosau a misoedd. Mae’n ymddangos bod y pwl o banig yn digwydd yn gyflym, ond dydy hynny ddim yn wir.

(Baker, 2011, t. 76)

Un elfen werthfawr y model diffyg prosesu emosiynau yn ystod panig yw ei fod yn awgrymu llwybr i wella anhwylder panig – dysgu strategaethau gwell ar gyfer prosesu emosiynau. Mae’r adran nesaf yn edrych ar hyn yn fanylach, gan ganolbwyntio ar ba gymorth sydd ar gael ar gyfer anhwylder panig.