2 Sut gellir deall pyliau o banig?
Os byddech chi’n gweld corwynt yn dod tuag atoch chi, mae’n debyg na fyddech yn synnu eich bod yn teimlo'n ofnus, neu'n teimlo eich calon yn curo'n gyflym. Fodd bynnag, gydag anhwylder panig, gall ymddangos bod y panig yn digwydd yn gyflym, heb unrhyw sbardun amlwg, ac felly heb unrhyw beth yn ei achosi.
Felly pam maen nhw’n digwydd? Mae’r adran nesaf yn edrych ar rai syniadau allweddol ynghylch beth sy’n achosi pyliau o banig. Mae llawer o waith ymchwil wedi’i wneud i’r pwnc hwn - ac mae llawer o ddamcaniaethau wedi’u cyflwyno, gan gynnwys y syniad bod geneteg neu fioleg unigolion yn gallu chwarae rôl. Er hyn, un syniad pwysig iawn yw bod y ffordd mae unigolion yn meddwl am eu profiad o banig yn allweddol. Mae hyn yn cael ei adnabod fel theori wybyddol anhwylder panig.