1.2 Diffinio anhwylder panig
Gan eich bod yn deall erbyn hyn sut mae pyliau o banig yn cael eu diffinio’n ffurfiol, beth am ‘anhwylder panig’? Anhwylder panig yw pan fydd unigolyn yn profi pyliau annisgwyl o banig dro ar ôl tro. Yn hollbwysig, mae o leiaf rhai o’r pyliau o banig yn digwydd yn ‘annisgwyl’ a gallant ddigwydd hyd yn oed pan fydd rhywun yn cysgu.
Gydag anhwylder panig, mae’r profiad o gael pyliau o banig dro ar ôl tro yn tarfu ar fywyd unigolion, yn effeithio ar eu gwaith, eu perthnasoedd personol a’u bywydau cymdeithasol – ar y mwyafrif o agweddau ar eu bywyd bob dydd a dweud y gwir. Yn aml, maent yn byw mewn ofn o gael rhagor o byliau, yn poeni drwy’r amser am beth yw’r pyliau a beth allai ddigwydd o ganlyniad iddynt, ac maent yn newid y ffordd maent yn byw er mwyn ceisio osgoi pyliau yn y dyfodol - ee drwy beidio â mynd i fannau cyhoeddus. Yn anffodus, gall ofn pwl o banig ddod yn gymaint o ffocws ym mywyd unigolyn nes bod yr ofn ei hun yn effeithio ar bron bob agwedd ar ansawdd ei fywyd.
Yn yr adran nesaf byddwch yn dysgu mwy am y profiad o gael anhwylder panig.