3.3 Hunangymorth a ffynonellau cymorth
Mae therapi gwybyddol ymddygiadol yn un math o therapi seicolegol ond nid therapi yw’r unig beth sy’n helpu anhwylder panig. Gall meddygon teulu roi presgripsiwn am feddyginiaeth hefyd.
Yn ychwanegol at hyn, mae’n syniad gwych rhoi cynnig ar hunangymorth. Gallwch helpu chi’ch hun drwy ddysgu am byliau o banig ac anhwylder panig, yn arbennig o ran:
- y pethau gallwch eu gwneud i geisio atal pyliau o banig
- y pethau gallwch eu gwneud i’ch helpu yn ystod bwl o banig
- lle i chwilio am gymorth.
Gweithgaredd 10 Atal panig ac ymdopi â phanig
Mae'r camau i atal pyliau o banig yn cynnwys ceisio lleihau’r straen gyffredinol yn eich bywyd a gwneud pethau a allai helpu gyda straen fel ymarfer aerobeg neu ymwybyddiaeth ofalgar, cysgu digon neu wneud gweithgareddau rydych yn mwynhau eu gwneud.
- Beth ydych chi wedi’i ganfod sy’n helpu i leihau eich lefelau straen cyffredinol? Rhestrwch dri pheth sy’n eich helpu i deimlo’n well.
Mae’r pethau y gallwch chi eu gwneud yn ystod bwl o banig yn cynnwys peidio ag arfer unrhyw ymddygiadau amddiffynnol.
- Mae’r darn nesaf wedi dod o’r wefan ‘No Panic’, sef elusen a gafodd ei sefydlu i helpu pobl gydag anhwylderau gorbryder gan gynnwys anhwylder panig. Darllenwch y darn a nodi’r awgrymiadau mwyaf defnyddiol, yn eich barn chi, a allai eich helpu chi i ymdopi â phanig.
Cofiwch nad yw’r symptomau na’r teimladau yn beryglus nac yn niweidiol er eu bod yn gallu bod yn ddychrynllyd iawn.
Dylech ddeall mai fersiwn gryfach o ymateb cyffredin y corff i straen yw’r hyn rydych yn ei brofi. Cofiwch pan fyddwch yn cyffroi, er enghraifft ar ôl ennill y loteri, ymateb eich corff i hynny fyddai stumog yn troi, calon yn curo’n gyflym, coesau ansefydlog ac mae’n debyg y byddech yn teimlo’n boeth ac yn cael eich llethu gan y profiad. Mae’r symptomau union yr un fath pan rydych yn bryderus; ond rydych yn ymateb yn wahanol pan mae’n ymddangos bod y teimladau yn dod am ddim rheswm amlwg, felly rydych yn poeni, yn dod yn fwy pryderus ac o bosib yn teimlo’n isel.
Peidiwch â brwydro yn erbyn eich teimladau na cheisio dymuno iddyn nhw ddiflannu – byddwch yn barod i’w derbyn a’u hwynebu, gan wybod na fydd unrhyw beth drwg yn digwydd. Wrth wneud hyn, bydd y teimladau’n gwanhau ac yn llai dwys.
Y prif beth y mae angen i chi ei gofio yw peidio ag ychwanegu at y panig drwy gael meddyliau dychrynllyd. Bydd dweud wrthych chi’ch hun y byddwch yn iawn, fel rydych wedi bod yn y gorffennol, yn bendant yn eich helpu. Ceisiwch newid ‘Beth os’ i ‘Be’ di’r ots’.
Mae’r uchod hefyd yn gweithio gyda theimladau digalon. Tensiwn a sut rydyn ni’n ‘meddwl’ am bethau sydd wrth wraidd hyn i gyd.
Os ydych yn sylwi eich bod yn dechrau mynd i banig, meddyliwch am y fenyw croesi'r ffordd gyda’i arwydd ‘AROS’ coch a dweud ‘NA’ wrthych chi’ch hun. Dylech ddechrau newid y meddyliau sy’n achosi panig i rai cadarnhaol – mae’n gallu gweithio ac mae yn gweithio!
Discussion
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud yn ystod bwl o banig hefyd yn cynnwys peidio ag arfer unrhyw ymddygiadau amddiffynnol.