Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Rôl osgoi

Described image
Ffigur 6 Nid yw osgoi yn strategaeth ddefnyddiol bob amser

Mae model gwybyddol anhwylder panig yn pwysleisio rôl dehongliadau trychinebus mewn pyliau o banig. Fodd bynnag, beth sy’n egluro pam bod pobl yn dal gafael ar y credoau hyn – hyd yn oed weithiau pan mae llawer o dystiolaeth i’r gwrthwyneb? Er enghraifft, efallai bydd unigolyn sydd ag anhwylder panig yn credu’n ddi-baid ei fod mewn perygl o gael trawiad angheuol ar y galon – er bod rhywun wedi dweud wrtho (yn ystod sawl ymweliad â’r ystafell frys yn yr ysbyty) nad oes unrhyw arwyddion bod ganddo broblemau gyda’i galon.

Un syniad sydd wedi’i gyflwyno yw, mae pobl yn dal gafael ar eu dehongliadau trychinebus oherwydd nad ydynt yn cael y cyfle i ddysgu bod y dehongliadau hyn yn anghywir. Pam hynny?

Dychmygwch unigolyn sy’n teimlo’n bryderus bob amser mae allan o wynt oherwydd bod ganddo gamddehongliad trychinebus bod hyn yn golygu ei fod yn cael trafferth anadlu, sy’n golygu ei fod am fygu a marw.

Felly, yn eich barn chi, beth fydd yr unigolyn yn ei osgoi os yw’n poeni am deimlo allan o wynt?

Gweithgaredd 8 Osgoi

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Pa fath o bethau (gweithgareddau, sefyllfaoedd, lleoedd) gallai wneud i unigolyn deimlo allan o wynt?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae gweithgareddau corfforol sy’n cael eu cysylltu (yn ddiogel) â theimlo allan o wynt (yn arbennig os yw’r gweithgaredd yn anodd neu os nad ydych yn ffit!) – er enghraifft cerdded fyny allt, gwneud chwaraeon neu gael rhyw. Hefyd, mae llawer o weithgareddau, sefyllfaoedd neu leoedd a allai wneud i unigolyn deimlo’n bryderus ac ymateb drwy ddechrau anadlu’n gyflymach – fel gwneud cyflwyniad yn y gwaith, canfod pry cop yn y bath neu fod yn rhywle sy’n orlawn.

Wrth edrych ar eich rhestr, os oedd person am osgoi teimlo'n fyr o wynt pa weithgareddau, sefyllfaoedd neu leoedd y gallai ddechrau eu hosgoi?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Efallai bydd unigolyn sydd eisiau osgoi unrhyw beth sy’n gwneud iddo deimlo allan o wynt yn stopio cerdded mynyddoedd gyda’i ffrindiau, chwarae pêl-droed gyda’i blant, neu gael rhyw gyda’i bartner. Efallai bydd yn chwilio am waith oherwydd nad oedd yn heriol, gofyn i’w bartner edrych yn y bath cyn ei ddefnyddio ac osgoi lleoedd gorlawn fel gwyliau cerddoriaeth neu archfarchnadoedd.

Fel y gwelwch, gall osgoi pethau rydych yn meddwl bydd yn arwain at bwl o banig gulhau bywyd unigolyn yn gyflym. Dyma un o'r rhesymau pam bod anhwylder panig yn cael ei gysylltu’n aml ag agoraffobia, sef ffobia o leoedd agored neu leoedd gorlawn neu ffobia o fynd y tu allan i’ch cartref.

Osgoi i ‘ymdopi’

Yn ychwanegol at osgoi gweithgareddau, sefyllfaoedd a llefydd, mae’n bosib y bydd unigolyn ag anhwylder panig yn gwneud pethau eraill yn ofalus er mwyn helpu ei hun i ymdopi â phethau sy’n ei boeni. Enghraifft o hyn yw efallai bydd unigolyn sy’n poeni am deimlo allan o wynt wrth gerdded i fyny allt yn dechrau anadlu’n ddwfn.

Sut mae ymdopi ac osgoi yn atal person rhag dysgu? Dangosir hyn yn Ffigur 7.

Described image
Ffigur 7 Ymdopi ac osgoi

Yn y dilyniant cyntaf, pan fydd yr unigolyn yn osgoi’r sefyllfa neu’n ymdopi â’r sefyllfa, ac nid oes dim byd drwg yn digwydd (neu nid yw’n marw o leiaf) mae’r unigolyn yn cysylltu’r canlyniad ‘dim trychineb’ â’r ymddygiad osgoi neu ymdopi. Efallai bydd yn meddwl: ‘Gwnes i lwyddo i fyw oherwydd roeddwn i’n anadlu’n ddwfn ac yn cerdded i fyny’r allt yn araf.’ Fodd bynnag, fel y mae’r ail ddilyniant yn ei ddangos, trwy wneud y pethau hyn nid yw’r unigolyn yn dysgu y byddai wedi byw heb ddefnyddio’r ymddygiad osgoi / amddiffyn.

Felly mae osgoi ac ymdopi yn cynnal anhwylder panig oherwydd maent yn rhwystro’r unigolion rhag dysgu nad yw’r teimladau corfforol y maent yn eu hofni mor beryglus ag y maent yn meddwl ydyn nhw. Ar ben hynny, gall osgoi neu ymdopi â rhywbeth wneud pethau’n waeth - er enghraifft mae anadlu’n ddwfn ac yn gyflym (fel y byddech chi’n ei wneud mewn panig) yn arwain at oranadlu, ac mae hynny’n gallu arwain at berson yn teimlo mwy allan o wynt.