2.1 Theori gwybyddol anhwylder panig
Pan fyddwch yn cerdded i fyny’r grisiau, efallai byddwch yn sylwi bod cyfradd curiad eich calon yn cynyddu. Efallai ei bod yn gyffredin i chi feddwl ‘Waw, dwi angen gwella fy ffitrwydd!’ Ond mae meddwl bod hyn yn golygu eich bod ar fin cael trawiad ar y galon yn llai cyffredin. Mae model gwybyddol anhwylder panig yn awgrymu bod y math yma o ‘ddehongliad trychinebus’ (neu gamddehongliad ofnadwy) o deimladau’r corff yn allweddol i ddatblygu anhwylder panig.
Mae’r cylch dieflig sy’n datblygu yn cael ei ddisgrifio yn Ffigur 4. Y patrwm yw bydd rhyw fath o sbardun i ddechrau - gallai hwn fod yn rhywbeth mewnol (sylwi ar deimlad corfforol fel y galon yn curo’n gyflym) neu allanol (sylwi bod y siop rydych ynddi’n llawn). Yna, mae’r sbardun yn cael ei ddehongli fel arwydd bod rhywbeth drwg am ddigwydd (mae’n cael ei ddehongli fel bygythiad). O ganlyniad, bydd yr unigolyn yn teimlo’n bryderus ac oherwydd ei fod yn poeni, bydd ei gorff yn dechrau cael yr adweithiau corfforol cyffredin i bryder. Bydd yr unigolyn yn sylwi ar y teimladau corfforol hyn ac yna’n eu dehongli fel ‘trychinebus’ – peryglus iawn. Mae hyn yn creu canfyddiad o fygythiad sydd, yn ei dro, yn cynyddu’r pryder sydd yna’n cynyddu’r adweithiau corfforol, mewn cylch ofnadwy sy’n arwain at bwl o banig.
Gweithgaredd 4 Llwybr panig
Gan eich bod nawr wedi dysgu am y model, ceisiwch fapio sut gallai un sbardun (mewnol neu allanol) arwain at bwl o banig. Edrychwch ar y blwch isod a defnyddio’r enghraifft i roi eich ymateb eich hun.
Enghraifft | Eich ymateb | |
---|---|---|
Sbardun (mewnol neu allanol) | Sbardun mewnol: Teimlo ychydig allan o wynt | Sbardun: |
Bygythiad | Barn: ‘Gall bod allan o wynt olygu rhywbeth drwg’ | Bygythiad: |
Pryder | Teimladau: Poeni/ofn | Pryder: |
Teimladau corfforol | Teimladau corfforol: dechrau anadlu’n gyflym, calon yn dechrau curo’n gyflymach, dechrau chwysu a chrynu | Teimladau corfforol: |
(Cam)ddehongliad trychinebus | Barn: ‘Dwi’n cael trafferth anadlu, dwi am fygu’ | (Cam)ddehongliad trychinebus: |
Cylch dieflig | Mae meddwl ‘dwi’n cael trafferth anadlu’ yn cynyddu’r bygythiad, y gofid, yr ofn a’r teimladau corfforol, gan arwain at ragor o (gam)ddehongliadau trychinebus – fel ‘dwi’n mygu, dwi am farw’. | Cylch dieflig: |
Gadael sylw
Efallai bod y llwybr panig y gwnaethoch chi ei nodi yn wahanol i’r enghraifft a gawsoch; mae hyn yn dangos bod model gwybyddol anhwylder panig yn gweithio hyd yn oed pan mae profiadau a meddyliau pobl yn wahanol yn ystod bwl o banig.
Pyliau o banig dirybudd ac wrth gysgu
Nodwyd yn gynharach mai un o elfennau allweddol anhwylder panig yw y gall unigolyn brofi pyliau o banig yn ddirybudd ac wrth gysgu. Mae model gwybyddol anhwylder panig yn ceisio egluro hyn yn y ffyrdd canlynol:
- Pyliau o banig lle mae sbardun amlwg. Weithiau bydd pyliau o banig yn digwydd pan fydd rhywun yn ofnus iawn. Er enghraifft, efallai bydd unigolyn sydd ofn pryfed cop yn cael pwl o banig ar ôl gweld un mawr yn annisgwyl. Yn yr achos hwn, mae’n bosib nad yw’r pwl o banig yn annisgwyl, er ei fod yn brofiad dychrynllyd.
- Pyliau o banig ‘dirybudd.’ Weithiau bydd pwl o banig yn digwydd heb i’r person sy’n ei brofi cael rhybudd. Un syniad yw bod y pyliau o banig hyn yn digwydd oherwydd bod unigolyn yn cael teimlad corfforol sy’n cael ei gysylltu â phyliau o banig neu deimlad y maen nhw'n ei ofni (fel bod allan o wynt). Gallai’r teimlad corfforol hwn gael ei achosi gan rywbeth diniwed (efallai bod ei galon yn curo’n gyflym ar ôl rhedeg i ddal y bws, neu am ei fod yn gyffrous). Fodd bynnag, y prif bwynt yw nid yw’r unigolyn yn gwahanu ‘sbardun’ y teimlad corfforol oddi wrth y pwl o banig ei hun, neu efallai nad yw’n gallu gwneud hynny. O ganlyniad, mae’r unigolyn yn profi’r pwl o banig fel un dirybudd.
- Pyliau o banig wrth gysgu. Fel gyda phyliau o banig annisgwyl pan yn effro, credir mai meddyliau, emosiwn neu deimlad corfforol diniwed sy’n achosi’r pwl o banig. Fodd bynnag, nid y meddyliau, yr emosiwn na’r teimlad corfforol sy’n deffro’r unigolyn, ond y pwl o banig. Felly o safbwynt yr unigolyn, mae’r pwl o banig yn digwydd heb unrhyw beth yn ei achosi.
Mae model gwybyddol anhwylder panig yn ceisio egluro anhwylder panig yng nghyswllt dehongliadau trychinebus o’r adweithiau corfforol cyffredin i ofn neu bryder. Mae’r adran nesaf yn egluro mwy am yr ymateb ‘normal’ hwn, sef ofn, a sut nad yw’n rhywbeth i’w ofni.