1 Beth yw pyliau o banig ac anhwylder panig?
Yn ôl systemau ffurfiol rhoi diagnosis seiciatrig (gweler Blwch 1):
- Mae pyliau o banig yn brofiadau eithafol o bryder ac ofn cyflym a llethol.
- Anhwylder panig yw profiad rheolaidd o gael pyliau o bryder dro ar ôl tro.
Blwch 1 Diagnosis Seiciatrig
Diagnosis seiciatrig yw'r broses o ‘roi diagnosis’, adnabod neu labelu anawsterau iechyd meddwl. Mae dwy brif system ar gyfer rhoi diagnosis seiciatrig:
- Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM), sy’n cael ei gynhyrchu gan Gymdeithas Seiciatrig America ac sy’n llawlyfr cynhwysfawr am anhwylderau meddyliol. Mae bellach wedi’i argraffu am y pumed tro.
- Pennod V Dosbarthiad Rhyngwladol Ystadegau Afiechydon a Phroblemau Iechyd Perthnasol (ICD) sy’n cael ei gynhyrchu gan Sefydliad Iechyd y Byd ac mae deg argraffiad ohono.
Ond ydy pyliau o banig yr un fath â theimlo panig?
Gweithgaredd 1 Adnabod dehongliadau
Ydy teimlo panig (ee oherwydd eich bod yn hwyr) yr un fath â phrofi pwl o banig? Ysgrifennwch eich meddyliau yn y blwch isod. Dim ond chi fydd yn gallu gweld eich sylwadau.
Discussion
Mae’n debyg ein bod ni gyd yn mynd i banig weithiau ond hyd yn oed os ydy rhai o’r teimladau’n debyg, mae profi pwl o banig go iawn yn wahanol, fel y gwelwch chi pan fyddwch yn clywed pobl yn siarad am eu profiadau o byliau o banig.
Gall teimlo panig fod yn brofiad dynol cyffredin, ond mae’r hyn sy’n gwneud i bobl deimlo panig yn gallu amrywio. Pa bethau cyffredin neu weithgareddau sy’n gwneud i rywun deimlo panig? Ysgrifennwch eich ymateb yn y blwch.
Discussion
Efallai eich bod wedi rhestru ofnau cyffredin (fel pryfed cop) neu ofnau sy’n bersonol i chi. Fodd bynnag, un peth i’w nodi am byliau o banig ydy, mae’n gyffredin iddyn nhw ddigwydd yn ddirybudd – heb unrhyw beth yn eu sbarduno, mae’n ymddangos.