Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Cyflwyniad
Mae'r cwrs hwn, sef Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth i’w wneud amdanyn nhw, yn canolbwyntio ar byliau o banig. Rydyn ni gyd yn teimlo’n bryderus neu’n ofnus weithiau, ond pan nad oes modd rheoli’r ofn a'r pryder hwnnw, neu pan fydd unigolyn yn dechrau teimlo panig go iawn, y bydd pethau’n dechrau symud y tu hwnt i ‘normal’ neu brofiad bob dydd o boeni. Pan fydd y profiad hwn o banig yn dod yn aml, a phan fyddwch yn teimlo nad ydych yn gallu rheoli’r pryder, efallai y dylech ddechrau chwilio am gymorth.
Wrth edrych ar y problemau hyn yn ystod y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar dri chwestiwn:
- Beth yw pyliau o banig ac anhwylder panig?
- Sut gellir deall pyliau o banig?
- Beth ellir ei wneud am anhwylder panig?
Rhybudd
Mae pyliau o banig yn gyffredin iawn ac mae’n bosibl eich bod wedi’u profi eich hun. Yn yr achos hwn, dylai cynyddu eich gwybodaeth am byliau o banig a sut i ddelio â nhw eich helpu.
Gallai canolbwyntio ar y pwnc panig – yn arbennig wrth i chi ddechrau darllen – wneud i chi deimlo’n anghyfforddus. Fel arfer, bydd y teimlad hwn yn diflannu wrth i chi ganolbwyntio ar y darlleniadau a gwneud y gweithgareddau, felly mae’n werth dal ati. Fodd bynnag, dylech ofalu amdanoch chi’ch hun hefyd. Gallwch ddod o hyd i leoedd i gael cymorth mewn adran ar ddiwedd y cwrs [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae’r cwrs OpenLearn hwn yn rhan sydd wedi’i haddasu o gwrs y Brifysgol Agored, sef DD803 Gwerthuso Seicoleg: ymchwil ac ymarfer.