1 Beth yw oedraniaeth a pham mae’n bwysig?
Mae oedraniaeth yn cyfeirio at stereoteipiau (sut rydym yn meddwl), rhagfarn (sut rydym yn teimlo) a gwahaniaethu (sut rydym yn gweithredu) wedi’i gyfeirio at bobl ar sail eu hoedran. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2021).

Gall oedraniaeth fod yn sefydliadol, yn rhyngbersonol neu’n hunangyfeiriedig.
Oedraniaeth sefydliadol
Oedraniaeth mewn sefydliadau a’r strwythurau a’r systemau sy’n bodoli ynddynt, fel gweithleoedd neu’r cyfryngau.
Enghraifft: Systemau iechyd lle mae’n arferol i bobl hŷn gael llai o flaenoriaeth ar gyfer triniaethau penodol neu lle tybir bod symptomau yn ‘ddim ond heneiddio’.
Oedraniaeth ryngbersonol
Oedraniaeth yn ein perthnasoedd, sut rydym yn cysylltu neu’n ymdeimlo ag eraill.
Enghraifft: Gweithiwr gofal cymdeithasol yn siarad ag aelod o deulu rhywun hŷn yn hytrach na siarad â’r unigolyn eu hunain.
Oedraniaeth hunangyfeiriedig
Oedraniaeth o ran sut rydym yn cyfeirio pethau atom ni ein hunain, myfyrdod mewnol, y cyfeirir ato weithiau fel oedraniaeth fewnol.
Enghraifft: Rhywun hŷn yn bychanu symptomau neu’n oedi cyn ceisio gofal oherwydd eu bod yn credu nad yw’n ‘ddim ond henaint’.