1.3 Gwahaniaethu ar sail oedran
Stereoteipiau a rhagfarn yw sut rydym yn meddwl ac yn teimlo. Gwahaniaethu yw’r ffordd rydym yn ymddwyn.
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran – gellir diffinio hyn fel trin pobl yn wahanol ar sail stereoteipiau neu ragfarn.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran – gellir diffinio hyn fel ‘trin pawb yr un fath’ heb ystyried anghenion unigol.
Mae gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail oedran yn digwydd ar lefel bersonol a sefydliadol.
Gweithgaredd 4
Meddyliwch a yw’r canlynol yn enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol ar sail oedran:
a.
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran
b.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran
Yr ateb cywir yw a.
Ateb
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran, mae wedi cael ei drin yn wahanol.
a.
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran
b.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran
Yr ateb cywir yw b.
Ateb
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran yn rhoi pobl hŷn dan anfantais gan eu bod yn llai tebygol o gael eu cynnwys yn ddigidol.
a.
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran
b.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran
Yr ateb cywir yw a.
Ateb
Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran, mae’r gweithiwr wedi cael ei drin yn wahanol oherwydd ei oedran.
Stereoteipiau a thybiaethau
Gall stereoteipiau sy’n seiliedig ar oedran hefyd arwain at rywun yn dod i gasgliadau gwahanol iawn wrth weld oedolyn hŷn ac oedolyn iau sydd â phoen cefn neu sy’n cerdded yn gloff. Mae’n ddigon posibl y byddant yn tybio mai cyflwr dros dro yw cyflwr y person iau ac y gellir ei drin, efallai o ganlyniad i ddamwain, tra gellid tybio bod cyflwr y person hŷn yn gronig ac yn llai ymatebol i driniaeth.
Efallai na fydd y dybiaeth hon yn cael unrhyw effaith os bydd rhywun yn ei gwneud yn sydyn wrth i rywun basio ar y stryd, ond os yw’n cael ei gwneud gan weithiwr iechyd proffesiynol sy’n cynnig triniaeth neu reolwyr sy’n meddwl am iechyd galwedigaethol, gallai ddylanwadu’n amhriodol ar eu gweithredoedd ac arwain at wahaniaethu ar sail oedran.
Gall y driniaeth hon ddigwydd o ganlyniad i stereoteipiau a rhagfarn sy’n gwahaniaethu ar sail oedran neu oherwydd methiant i weld gwahaniaethau unigol.