Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth yn y DU sydd â’r nod o amddiffyn unigolion rhag cael eu trin yn annheg a hyrwyddo cymdeithas deg a mwy cyfartal. Roedd yn cyfuno nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu mewn un Ddeddf, gan wneud y gyfraith yn haws ei deall a’i chymhwyso. (GOV.UK, 2013)

Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl ar sail naw nodwedd warchodedig, fel y gwelir yn Ffigur 8 ac a restrir isod.

Graffigyn yn dangos y naw nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Testun yn darllen: ‘Deddf Cydraddoldeb 2010 – 9 nodwedd warchodedig’. Dangosir y naw nodwedd gydag eiconau: Oedran, Anabledd, Ailbennu rhywedd, Priodas a phartneriaeth sifil, Beichiogrwydd a mamolaeth, Hil, Cyfeiriadedd rhywiol, Crefydd a chred, a Rhyw.
Ffigur 8: Naw nodwedd warchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Crefydd a chred
  • Rhyw

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn datgan na ddylai darparwyr nwyddau a gwasanaethau a chyflogwyr wahaniaethu - na chynnig gwasanaethau neu driniaeth israddol - ar sail nodwedd warchodedig.

Mae oedran yn un o’r nodweddion gwarchodedig hyn. Mae hyn yn golygu na all siopau, meddygon teulu, ysbytai, gwasanaethau trafnidiaeth, toiledau cyhoeddus, colegau, prifysgolion ac ati wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu hoedran.