3.1.2 Yn y gweithle
Gall gwaith ystyrlon helpu pobl i fod yn egnïol, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a gwella iechyd a llesiant. Fodd bynnag, mae oedraniaeth a gwahaniaethu yn y gweithle – sy’n seiliedig ar gamsyniadau sydd wedi’u chwalu ynghylch diffyg cynhyrchiant, iechyd gwaeth ac amharodrwydd i addasu i newid – yn rhwystr i bobl hŷn o ran aros mewn gwaith cyflogedig neu ddychwelyd i waith cyflogedig.
Mae’n ymddangos bod gweithwyr hŷn yng Nghymru yn wynebu mwy o rwystrau i gyflogaeth na’r rheini mewn rhannau eraill o’r DU. Mae ffigurau’n dangos bod cyfraddau cyflogaeth pobl 50-64 oed yn is yng Nghymru yn ystod 2024-25 nag ym mhob rhan arall o’r DU, a mwy na 10% yn is nag mewn rhai ardaloedd. (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024)
Wrth wneud cais am swyddi neu tra byddwch yn y gwaith, gall y cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth benderfynu a oes oedraniaeth yn bresennol:
- A yw hysbysebion swyddi yn rhoi’r argraff i chi na fyddai gan y cyflogwr ddiddordeb ynoch chi fel person hŷn (e.e. y cyflogwr yn gofyn am gymwysterau fel TGAU, neu recriwtio’n cael ei dargedu at ffeiriau graddedigion)?
- Yn y gweithle, a yw cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad a hyfforddiant ar gael i bobl o bob oed ar sail gyfartal a theg?
- Yn y gweithle, a yw arfarniadau gwaith yn rhydd rhag unrhyw ragdybiaethau ynghylch oedran ac yn seiliedig ar berfformiad gwirioneddol?
- Os bydd sefyllfaoedd diswyddo’n codi, a ydynt yn cael eu cynnal heb dybiaethau am oedran (e.e. heb ragdybiaethau y bydd pobl hŷn yn ymddeol cyn bo hir)?
- Mae’n bwysig nodi y gall fod ‘cyfiawnhad gwrthrychol’ dros drin rhywun yn wahanol ar sail oedran mewn cyd-destun cyflogaeth. Gallai hyn gynnwys enghreifftiau fel terfynau oed i wneud rhai swyddi neu i dalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn profi gwahaniaethu ar sail oedran wrth chwilio am waith neu yn y gweithle, gallwch wneud y canlynol:
- Siarad â’ch Undeb Llafur neu gynrychiolydd gweithwyr yn y gweithle.
- Siarad â’r cyflogwr i chwilio am ateb anffurfiol a derbyniol.
- Gwneud cwyn ffurfiol i’r cyflogwr gan ddefnyddio ei drefn gwyno.
- Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth (mae terfynau amser yn berthnasol ar gyfer gwneud hawliad – 3 mis o ddyddiad y digwyddiad gwahaniaethu diwethaf, dylech gysylltu â gwasanaeth cymodi cynnar ACAS i geisio datrys y mater yn gyntaf).
Yn unrhyw un o’r camau uchod, gallwch gael cyngor a chymorth am ddim gan asiantaeth arbenigol a all roi cyngor i chi ar sail eich profiadau a’ch amgylchiadau unigol (e.e. gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (ACAS)).
