1.1.4 Oedraniaeth elyniaethus neu oedraniaeth gyfeillgar
Mae oedraniaeth elyniaethus ac oedraniaeth gyfeillgar yn ddau fath o ragfarn sy’n aml yn cydfodoli. Mae oedraniaeth elyniaethus yn cynnwys bychanu agored, stereoteipio negyddol, a gweld pobl hŷn fel baich. I’r gwrthwyneb, mae oedraniaeth gyfeillgar yn dod i’r amlwg drwy ymddygiad sy’n llawn bwriad da ond sy’n nawddoglyd, yn amddiffynnol neu’n ‘garedig’ sy’n gallu lleihau ymreolaeth pobl hŷn.
Mae effaith negyddol oedraniaeth elyniaethus yn fwy amlwg ar y cyfan, ond mae oedraniaeth gyfeillgar hefyd yn niweidiol – mewn ffordd fwy cynnil o bosibl. Gall stereoteipiau a rhagfarnau cyfeillgar ymddangos yn ddiniwed, neu o bosibl yn garedig hyd yn oed, ond gallant olygu bod pobl hŷn yn gallu cael eu hystyried yn bobl ‘analluog’ neu ‘ddi-glem’. Gallant hefyd arwain at dybiaethau ei bod yn ‘naturiol’ i bobl hŷn fod â disgwyliadau is, llai o ddewis a rheolaeth, gyda llai o ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w barn.
