2.4 Cyfiawnhad gwrthrychol
Hyd yn oed os nad yw rhywbeth yn dod o dan un o’r eithriadau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, gall fod yn gyfreithlon o hyd i fasnachwr neu ddarparwr gwasanaeth eich trin yn wahanol – neu hyd yn oed wahaniaethu yn eich erbyn – oherwydd eich oedran.
Gellir defnyddio cyfiawnhad gwrthrychol ar gyfer gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrcholar sail oedran. Byddai’n rhaid i’r masnachwr neu’r darparwr gwasanaeth ddangos bod ganddo reswm digon da dros wahaniaethu yn eich erbyn. Er enghraifft, gellid cyfiawnhau penderfyniad campfa i wrthod cynnig aelodaeth i rywun dros 80 oed os na all y perchennog gael yswiriant fforddiadwy i ddefnyddwyr dros yr oedran hwnnw.
Fodd bynnag, efallai na fydd rheswm yn ddigon da os gallai’r darparwr fod wedi gweithredu mewn ffordd lai gwahaniaethol. Yn enghraifft y gampfa, gallai hyn olygu codi ffi fach ychwanegol ar bob aelod er mwyn talu am gostau yswiriant uwch i ddefnyddwyr hŷn. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn mynnu bod darparwyr yn dangos eu bod yn ystyried effaith wahaniaethol eu penderfyniad a bod angen cymryd y camau. Rhaid iddynt ddangos ei bod yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.
Dyma enghreifftiau o nodau dilys a gefnogir gan dystiolaeth:
- Sicrhau iechyd a diogelwch. Er enghraifft, cyfyngu ar nifer y pramiau neu gadeiriau olwyn sy’n cael eu caniatáu ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu mynd ymlaen a dod i ffwrdd yn gyflym.
- Diogelu lles. Mae’r gwasanaeth tân yn mynnu bod ymgeiswyr yn pasio profion corfforol er mwyn cael swyddi diffodd tân. Gallai hyn ymddangos fel gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran, gan fod pobl hŷn yn llai tebygol o basio. Fodd bynnag, gall y gwasanaeth tân gyfiawnhau hyn oherwydd bod diffodd tân yn gofyn am allu corfforol. Y nod yw sicrhau diogelwch diffoddwyr tân a chynnal gwasanaeth effeithiol. Mae profion corfforol yn ffordd gymesur o gyflawni hyn.
- Galluogi pobl o grwpiau penodol i fwynhau gweithgareddau gyda’i gilydd. Er enghraifft, cynnig sesiynau nofio sy’n benodol i oedran neu sesiynau i fenywod yn unig.
- Targedu gwasanaethau at y rhai sydd eu hangen fwyaf. Er enghraifft, hyrwyddo gwasanaeth sgrinio’r fron a mamogramau i bobl dros 50 oed.