3.1 Herio oedraniaeth
Gallwch herio oedraniaeth rydych chi’n dod ar ei thraws yn anffurfiol neu yn ffurfiol.
Anffurfiol - tynnu sylw at oedraniaeth, unrhyw ragdybiaethau anghywir sy’n cael eu gwneud ac effeithiau niweidiol oedraniaeth, gan nodi ble mae iaith amhriodol neu iaith sy’n stereoteipio wedi cael ei defnyddio.
Ffurfiol - tynnu sylw at oedraniaeth a defnyddio deddfwriaeth sydd wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb: Deddf Cydraddoldeb 2010 / chwilio am gyfleoedd i gyfrannu at gymdeithas decach drwy Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru.
Bydd yr adrannau canlynol yn edrych ar yr hyn y gallwch ei wneud yn ffurfiol ac yn anffurfiol pan fyddwch yn dod ar draws oedraniaeth yn y cyfryngau, yn y gweithle, mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac fel defnyddiwr cyffredinol. Er bod yr adrannau hyn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion i herio oedraniaeth, maen nhw hefyd yn ddefnyddiol i ddeall lle gall pobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw neu’n eu cefnogi ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth os ydyn nhw’n teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr adrannau hyn yn eich helpu i bwyso a mesur sut gellid gwella polisïau ac arferion yn eich sefydliad neu faes gwaith eich hun i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl hŷn, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.