Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1.3 Goblygiadau

Gwyliwch y fideo byr hwn a gynhyrchwyd gan ymgyrch Sefydliad Iechyd y Byd i fynd i’r afael ag oedraniaeth.

Fideo 3 'Global Campaign to Combat Ageism - #AWorld4AllAges', UN Decade of Healthy Ageing (Gweler y trawsgrifiad [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] [PDF 21 KB])
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae’r fideo yn canolbwyntio ar effaith bersonol stereoteipio a rhagfarn ar sail oedran. Efallai eich bod wedi cael profiadau tebyg o ran sut rydych chi wedi teimlo neu sut rydych chi wedi meddwl am rywun arall.

Ar ôl ystyried stereoteipiau a rhagfarn ac edrych ar rai enghreifftiau, gallwn ddod i’r casgliad bod y gymdeithas a’r diwylliant rydym yn byw ynddynt weithiau’n ei gwneud yn hawdd stereoteipio pobl eraill heb feddwl llawer am y canlyniadau posibl.