3.1.4 Mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i ddarparwyr nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â gwasanaethau fel iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, siopau, gwestai ac yswirwyr. Mae’n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, na ellir gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oedran.
Fodd bynnag, mae nifer o eithriadau penodol sy’n ymwneud â rhai gwasanaethau defnyddwyr ac ariannol, gan gynnwys:
- Gwyliau sy’n gysylltiedig ag oedran a gynigir i bobl dros 50 oed.
- Clybiau cymdeithasol neu hamdden sy’n darparu ar gyfer pobl o oedrannau penodol yn unig.
- Yswirwyr yn gallu ystyried oedran wrth gyfrifo premiwm, a banc yn gallu gwrthod cynnyrch ariannol i gwsmer ar sail ei oedran (fodd bynnag, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn seilio’r penderfyniad ar wybodaeth ddibynadwy a pherthnasol, yn hytrach na dim ond gwneud rhagdybiaeth gyffredinol ar sail oedran).
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn wael fel cwsmer ar sail eich oedran, gallwch wneud y canlynol:
- Cwyno gan ddefnyddio trefn gwyno’r cwmni, gan ddatgan eich bod yn credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail oedran.
- Rhoi gwybod i safonau masnach (timau mewn awdurdodau lleol sy’n gorfodi deddfwriaeth i ddiogelu defnyddwyr) am fusnes lleol.
Gan ddibynnu am bwy rydych chi’n cwyno, gallech fynd â’ch cwyn ymhellach at gorff rheoleiddio:
- Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ynghylch hysbysebion nad ydynt yn cael eu darlledu, hyrwyddiadau gwerthu a marchnata uniongyrchol. Efallai y byddwch am gwyno os ydych chi wedi gweld hysbyseb yn y wasg, hysbyseb hyrwyddo, taflen neu boster sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn eich barn chi, a’ch bod am iddo gael ei newid neu ei dynnu. Gall yr Awdurdod Safonau Hysbysebu dynnu hysbyseb camarweiniol neu dramgwyddus a sicrhau bod ymgyrchoedd hyrwyddo yn cael eu rhedeg yn deg. Dylech gwyno am hysbysebion teledu neu radio drwy’r rheoleiddiwr Ofcom.
- Gallwch fynd â chwynion am sefydliadau ariannol, yswirwyr a banciau at yr Ombwdsmon Ariannol, sy’n gallu ymchwilio i gwynion nad ydynt wedi cael eu datrys drwy broses gwyno’r sefydliad yn gyntaf.
- Ar unrhyw un o’r camau uchod, gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb i gael cyngor.
Efallai y byddwch hefyd am fynd â’ch busnes i rywle arall a dweud wrth eich ffrindiau a’ch teulu am wneud yr un peth. Ysgrifennwch at y cwmni i roi gwybod iddynt mai oedraniaeth yw’r rheswm pam eu bod wedi colli eich busnes.
Gall rhannu adolygiad ar-lein fod yn ffordd bwerus o leisio eich barn, ac weithiau gall gael ymateb mwy ffafriol gan y cwmni os ydynt yn ofni colli mwy o fusnes