Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail oedran

Gall gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fod ar sawl ffurf:

Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran: Trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Enghraifft: Campfa yn gwrthod aelodaeth i ddyn 76 oed oherwydd ei oedran.

Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran: Defnyddio rheol neu bolisi sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais. Enghraifft: Mae optegydd yn caniatáu i gwsmeriaid dalu am eu sbectol mewn rhandaliadau, ond er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyn, mae’n rhaid i’r unigolion fod yn gweithio. Gallai hyn roi pobl hŷn dan anfantais gan eu bod yn llai tebygol o fod yn gweithio.

Aflonyddu: Ymddygiad digroeso sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig sy’n torri urddas rhywun neu’n creu amgylchedd gelyniaethus. Enghraifft: Cydweithwyr yn gwneud jôcs dro ar ôl tro am oedran unigolyn, sy’n sarhaus neu’n peri gofid iddo.

Erledigaeth: Trin rhywun yn annheg oherwydd ei fod wedi gwneud cwyn neu wedi cefnogi cwyn o dan y Ddeddf. Enghraifft: Gweithle sy’n eithrio rhywun o weithgareddau cymdeithasol neu godiad cyflog wrth iddo gymryd, neu y credir ei fod yn cymryd, camau gweithredu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Gwahaniaethu ar sail cysylltiad: Cael eich trin yn annheg oherwydd eich cysylltiad â rhywun sydd â nodwedd warchodedig. Enghraifft: Gweithle yn newid trefniadau gweithio (e.e. gweithio gartref) heb rybudd pan fydd angen i’r unigolyn fod gartref i gyflawni dyletswyddau gofalu.

Gwahaniaethu ar sail canfyddiad: Cael eich trin yn annheg oherwydd bod rhywun yn meddwl bod gennych nodwedd warchodedig, hyd yn oed os nad yw hynny’n wir. Enghraifft: Rheolwr yn tybio na fydd cydweithiwr hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ‘diwrnod cwrdd i ffwrdd’ penodol oherwydd ei fod yn credu fod yr unigolyn yn debygol o fod yn anabl mewn rhyw ffordd.

Gellir defnyddio’r Ddeddf Cydraddoldeb i herio’r holl fathau hyn o wahaniaethu, fel y’u diffinnir uchod.

Mae’n bwysig nodi bod gan unigolion, h.y. pobl eu hunain, yr amddiffyniadau hyn fel deiliaid hawliau, fodd bynnag, rhaid i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn ymwybodol ohonynt fel deiliaid dyletswyddau (sy’n golygu eu bod yn gyfrifol am gydymffurfio â’r gyfraith).

Gweithgaredd 5

Timing: 5 munud

Myfyriwch ar adeg pan wnaethoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod gael eich trin yn annheg.

  • A oedd yn ymwneud ag unrhyw un o’r naw nodwedd warchodedig?
  • Pa fath o wahaniaethu (os o gwbl) y gallai fod wedi bod?
  • Sut oedd hynny wedi gwneud i chi deimlo?
  • Beth allai fod wedi cael ei wneud yn wahanol?