3.1.3 O fewn iechyd a gofal cymdeithasol
Pan fyddwn yn sâl, rydym am gael y driniaeth orau sydd ar gael. Fodd bynnag, weithiau mae problemau’n cael eu diystyru fel ‘henaint’, yn cael eu hanwybyddu ac nid ydynt yn cael eu hymchwilio na’u trin yn llawn.
Mae gan unrhyw un sy’n gweithio i’r GIG neu yn y sector gofal iechyd preifat (gan gynnwys staff meddygol proffesiynol fel ymgynghorwyr, meddygon a nyrsys, staff derbynfa, rheolwyr, staff diogelwch, glanhawyr, gyrwyr ambiwlans) neu unrhyw un sy’n gweithio i awdurdod lleol (gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol) ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn.
Wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal, gall y cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth benderfynu a oes oedraniaeth neu wahaniaethu yn bresennol:
- A wrthodir gwasanaeth i chi oherwydd eich oedran? (Mae’n bwysig nodi bod rhai triniaethau y mae’r sylfaen dystiolaeth yn awgrymu nad ydynt yn effeithiol y tu hwnt i oedran penodol.)
- Oherwydd eich oedran, ydych chi’n cael gwasanaeth o ansawdd gwaeth neu ar delerau gwaeth na’r hyn a fyddai’n cael ei gynnig fel arfer?
- A yw’ darparwr yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gysylltiedig â’ch oedran sy’n peri gofid i chi, yn eich tramgwyddo neu’n eich bygwth?
- A yw’r darparwr yn eich cosbi oherwydd eich bod yn cwyno am wahaniaethu neu’n helpu rhywun arall i gwyno oherwydd mater sy’n ymwneud ag oedran?
Os ydych chi’n profi gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwasanaethau iechyd neu ofal, gallwch gwyno wrth y ward, yr ysbyty, y cartref gofal neu’r darparwr gofal.
Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch fynd â hi ymhellach drwy gwyno wrth y bwrdd iechyd perthnasol (ar gyfer gwasanaethau iechyd) neu’r awdurdod lleol (ar gyfer gwasanaethau gofal). Os nad yw hyn yn arwain at ymateb boddhaol, gallwch gwyno wrth gorff rheoleiddio neu gorff gwarchod.
Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth am ddim gan arbenigwr a all roi cyngor i chi yn seiliedig ar eich profiadau a’ch amgylchiadau unigol (e.e. gan y Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).