1.2 Rhagfarn ddiarwybod
Sut mae stereoteipiau a rhagfarnau yn dylanwadu cymaint ar y ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am bobl eraill?
Mae rhagfarn ddiarwybod yn stereoteip neu ragfarn ddysgedig sydd wedi gwreiddio’n ddwfn, yn anfwriadol, yn awtomatig ac sy’n gallu dylanwadu ar ymddygiad. Mae’n ganlyniad i duedd naturiol yr ymennydd dynol i hidlo, didoli a chategoreiddio gwybodaeth am y byd.
Mae tri phrif ffactor sy’n gwneud pobl yn agored i ragfarn ddiarwybod:
- Rydym yn tueddu i chwilio am batrymau. Mae rhagfarn ddiarwybod yn digwydd oherwydd tueddiad naturiol yr ymennydd i chwilio am batrymau a chysylltiadau yn y byd. Mae gwybyddiaeth gymdeithasol, neu ein gallu i storio, prosesu a chymhwyso gwybodaeth am bobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, yn dibynnu ar y gallu hwn i ffurfio cysylltiadau am y byd.
- Rydym yn hoffi cymryd llwybrau byr. Yn yr un modd â rhagfarnau gwybyddol eraill, mae rhagfarn ddiarwybod duedd yn deillio o dueddiad yr ymennydd i geisio symleiddio’r byd. Oherwydd bod yr ymennydd yn aml yn cael mwy o wybodaeth na’r hyn mae’n gallu ei phrosesu, mae llwybrau byr meddyliol yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i’r ymennydd ddidoli’r holl ddata hwn.
- Profiadau a chyflyru cymdeithasol. Mae profiadau’n dylanwadu ar ragfarnau diarwybod, er nad yw’r agweddau hyn o reidrwydd yn ganlyniad i brofiad personol uniongyrchol. Gall cyflyru diwylliannol, portreadau yn y cyfryngau, a magwraeth i gyd gyfrannu at y cysylltiadau ymhlyg y mae pobl yn eu ffurfio am aelodau grwpiau cymdeithasol eraill.
Gellir mynd i’r afael â rhagfarn ddiarwybod drwy hyfforddiant ac ymwybyddiaeth. Un o fanteision bod yn ymwybodol o effaith bosibl rhagfarn ddiarwybod yw y gallwch gymryd rhan fwy gweithredol yn y gwaith o oresgyn stereoteipiau cymdeithasol, gwahaniaethu a rhagfarn.