1.1.1 Iaith
Enghraifft dda o ba mor gyffredin y gall oedraniaeth fod yn erbyn pobl hŷn yw archwilio iaith rydym wedi dod ar ei thraws yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
Gweithgaredd 2
Beth yw eich barn chi am y datganiadau yn y balwnau isod?
Ydych chi’n meddwl bod y datganiadau hyn yn gyfeillgar neu’n elyniaethus?
Ydych chi’n eu cwestiynu nhw pan fyddwch chi’n eu clywed? Ydych chi wedi’u defnyddio nhw eich hun, hyd yn oed amdanoch chi eich hun?
Gadael sylw
Mae’n bwysig meddwl am y datganiadau cyffredin hyn gan fod ganddyn nhw’r pŵer i ddylanwadu ar ein ffordd o feddwl, a thrwy hynny, ein hymddygiad.
Maen nhw’n atgyfnerthu negeseuon cynnil a hawdd eu methu: ein bod ni, pan fyddwn ni’n hŷn, wedi gweld dyddiau gwell ac mai bregusrwydd, galluoedd meddyliol neu gorfforol sy’n dirywio a dibyniaeth yw’r nodweddion anochel sy’n diffinio heneiddio.
Nid oes sôn am brofiad, doethineb, na bod yn fwy hyderus.
Mae llawer o’r datganiadau hyn yn ymwneud â hunaniaeth. Dylai pobl hŷn ymddwyn mewn modd sy’n ‘briodol i’w hoedran’ ac olyniaeth, mae pobl hŷn wedi ‘cael eu tro’ a dylent wneud lle i bobl iau (‘boomers’ a’r syniad y dylai pobl hŷn wneud lle mewn gweithleoedd i roi swyddi i bobl iau).
Mae cysylltiad â rhywedd hefyd. Er enghraifft, rydym wedi canfod mwy o oedraniaeth negyddol yn erbyn menywod hŷn na dynion hŷn, sy’n cael ei ategu gan ymadroddion fel ‘hen ddafad yng nghnu oen bach’.
Os ydych chi’n cyfathrebu â’r cyhoedd fel rhan o’ch gwaith, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi creu canllaw ar osgoi oedraniaeth mewn cyfathrebiadau proffesiynol.
Lawrlwythwch: Sut i osgoi rhagfarn oed wrth gyfathrebu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (PDF, 632 KB)
Bydd y canllaw hwn hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.
