Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Eithriadau

Gall gwahaniaeth mewn gwasanaethau neu driniaeth sy’n cael ei gynnig i bobl fod yn gyfreithlon os yw’r amgylchiadau’n dod o dan un o’r eithriadau sy’n caniatáu hyn:

Gostyngiadau a disgowntiau sy’n gysylltiedig ag oedran. Caniateir i fusnesau gynnig consesiynau neu ostyngiadau ar sail oedran – er enghraifft, mynediad rhatach i gyfleusterau hamdden i bobl ifanc 18–25 oed, neu gynigion cinio ar gyfer pobl hŷn. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cydnabod nad yw pob gwahaniaeth mewn triniaeth ar sail oedran yn anghyfreithlon. Mewn rhai achosion, cânt eu caniatáu’n benodol fel eithriadau (megis consesiynau), neu gallant fod yn dderbyniol os ydynt yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.

Gwyliau sy’n gysylltiedig ag oedran. Nid yw’n anghyfreithlon i gwmni gwyliau gynnig gwyliau ar gyfer grwpiau oedran penodol – er enghraifft, mordeithiau i bobl dros 50 oed neu wyliau Club 18- 30. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn caniatáu hyn pan fo’r gwyliau wedi’u cynllunio i ddod â phobl o’r un grŵp oedran ynghyd fel elfen ganolog o’r profiad. Er mwyn bodloni’r meini prawf, rhaid i’r gwyliau fel arfer gynnwys pecyn o o leiaf ddwy elfen, megis teithio, llety neu weithgareddau sylweddol, ac fel arfer byddant yn cynnwys arhosiad dros nos. Gall darparwyr gwyliau ddewis derbyn rhywun y tu allan i’r ystod oedran a nodir, ond ni ddylent eu trin yn llai ffafriol – er enghraifft, drwy godi pris uwch.

Gwasanaethau ariannol. Gellir defnyddio oedran i asesu risg, ac mae hyn yn gallu dylanwadu ar y pris a dalwch am gynnyrch neu wasanaeth ariannol fel yswiriant, bancio, credyd, pensiynau ac ati, neu a yw ar gael i chi o gwbl. Gall darparwyr hefyd osod terfynau oedran a chynnig cynhyrchion i bobl mewn grwpiau oedran penodol yn unig. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw ddefnydd o oedran wrth asesu risg fod yn seiliedig ar dystiolaeth berthnasol a dibynadwy, yn hytrach nag ar ragdybiaethau neu stereoteipiau.

Cyfreithiau eraill. Os oes cyfraith berthnasol arall sy’n dweud y gellir trin pobl yn wahanol ar sail eu hoedran ac felly nad yw’n wahaniaethu anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Enghraifft o hyn yw tocynnau bws am ddim i bobl dros 60 oed o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Gwirio oedran. Gall busnesau sy’n gwerthu nwyddau fel alcohol, tân gwyllt a sigaréts ofyn am brawf o’ch oedran os ydyn nhw’n meddwl eich bod chi dan oed. Gallant wrthod rhoi gwasanaeth i chi os na allwch brofi eich oedran. Nid yw hyn yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail oedran.

Mae’r eithriadau penodol hyn yn ychwanegol at:

  • eithriadau cyffredinol sydd eisoes yn cael eu caniatáu gan y Ddeddf Cydraddoldeb (e.e. y gallu i fynd yn groes i’r Ddeddf er budd diogelwch gwladol, at ddibenion elusennol neu chwaraeon)
  • mesurau gweithredu’n gadarnhaol
  • cyfiawnhad gwrthrychol.