2.5.1 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar waith
Dyma rai enghreifftiau o sut gallai cyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus:
Mae awdurdod lleol yn adolygu data ar fynediad at addysg oedolion, ac mae’n canfod bod menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hŷn yn llai tebygol o fynychu cyrsiau sgiliau digidol. Mewn ymateb i hyn, mae’n ariannu sesiynau yn y gymuned gyda chymorth cyfieithu ac amseroedd hyblyg i ddiwallu anghenion gofalu a diwylliannol.
Mae cyngor dinas wrthi’n ailddylunio parc cyhoeddus ac yn ymgynghori â thrigolion hŷn anabl a phobl hŷn LHDTC+. Ar sail eu hadborth, mae’n gwella llwybrau ar gyfer cymhorthion symud, yn gosod toiledau hygyrch, ac yn creu mannau cymunedol cynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt.
Cyn lansio menter gofal iechyd newydd, mae bwrdd iechyd lleol yn cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac yn nodi bod gan ddynion hŷn o gefndiroedd incwm isel a gwledig fynediad gwaeth at wasanaethau iechyd meddwl. Maent yn addasu’r polisi drwy gyflwyno clinigau allgymorth lleol a chymorth trafnidiaeth i leihau’r anghydraddoldebau hyn.
Y prif bwyntiau i’w cofio:
- Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ddyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru a gall peidio â’i chyflawni greu risgiau i gorff cyhoeddus, gan gynnwys y posibilrwydd o her gyfreithiol.
- Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gosod dyletswydd gadarnhaol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynd ati’n rhagweithiol i ystyried anghenion a phrofiadau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl hŷn, werth gynllunio polisïau, darparu gwasanaethau, a gwneud penderfyniadau, ac i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn eu gwaith o’r cychwyn yn hytrach na meddwl amdanynt yn ddiweddarach.
- Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn annog cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau tecach, ar sail gwell gwybodaeth, drwy ddeall sut y gallai eu gweithredoedd effeithio ar wahanol grwpiau a chymryd camau i ddileu a/neu leihau anfantais y gellir ei hosgoi.
- Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ymwneud â’r broses, nid y canlyniadau. Rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi ystyried cydraddoldeb, hyd yn oed os nad yw’r penderfyniad terfynol yn berffaith i bob grŵp.