2 Gwahaniaethu ar sail oedran a chyfraith y DU
Bydd yr adran hon yn edrych ar sut mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael ei drin dan gyfraith y DU. Byddwch yn cael eich cyflwyno i agweddau perthnasol ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r rheoliadau ar gyfer cyrff cyhoeddus a elwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Byddwch hefyd yn dysgu am y dyletswyddau penodol sy’n berthnasol yng Nghymru ac am rôl Comisiynydd Pobl Hŷn – swyddfa sy’n unigryw i Gymru ac i Ogledd Iwerddon.
Er mwyn rhoi cyd-destun, mae’n werth nodi rhywfaint o ddata demograffig fel oedran canolrifol poblogaeth y DU a sut mae wedi cynyddu ers 1975.
Beth yw ystyr ‘oedran canolrifol’?
Dychmygwch fod pobl o bob oed mewn gwlad yn cael eu rhoi mewn trefn rifol, e.e. o 0 i 100. Yr oedran sy’n disgyn union yng nghanol y rhestr hon yw’r oedran canolrifol. Os yw’r oedran canolrifol yn codi, mae’n golygu bod mwy o bobl yn byw’n hirach.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru a’r Alban sydd â’r oedrannau canolrifol uchaf yn y DU. Mae 898,383 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru, a rhagwelir y bydd y nifer yn hwn yn codi i 993,000 erbyn 2030 (SYG, 2024).
Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn cyfoethogi pob haen mewn cymdeithas ac yn creu cyfleoedd i ailfeddwl ynghylch y ffordd rydym yn cynllunio ein cymunedau, ein gwasanaethau a’n systemau. Mae yma oblygiadau pwysig i benderfyniadau polisi ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yr economi, tai, seilwaith a mwy. Mae’r dystiolaeth yn eglur: rhaid cydnabod pobl hŷn yn gyfranogwyr llawn a chyfartal mewn cymdeithas, sy’n gallu byw bywydau iach, cysylltiedig ac annibynnol am gymaint o amser â phosib.
I gael golwg fanylach ar y darlun cyffredinol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, gallwch ddarllen Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (PDF, 5.1 MB) gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bydd y ddolen hon hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.
