1.1.2 Delweddau
Fel iaith, mae delweddau’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i’r hyn rydym yn ei weld. Gall delweddau sy’n portreadu pobl hŷn fel pobl fregus, agored i niwed, sâl neu ddioddefwyr hefyd arwain at ymddygiad stereoteipio ac anwybyddu amrywiaeth pobl hŷn.
Enghraifft bob dydd o hyn yw arwydd traffig y DU yn rhybuddio y gallai cerddwyr hŷn fod yn croesi’r ffordd. Cafodd ei ddylunio ym 1981 o ganlyniad i gystadleuaeth i blant. Defnyddir yr un arwydd ar gyfer cerddwyr anabl hefyd. Mae llawer o bobl hŷn yn teimlo bod yr arwydd hwn yn enghraifft o oedraniaeth.
Yn 2020, cynhaliodd y Ganolfan Heneiddio’n Well gystadleuaeth yn gwahodd dylunwyr i ‘ailfeddwl am y symbolau a’r eiconau sy’n cael eu defnyddio’n aml yn gyhoeddus i gynrychioli grwpiau oedran hŷn.’ Roedd y dyluniad ‘cwpwl yn dawnsio’ buddugol yn seiliedig ar arwydd traffig y DU.

Dywedodd y beirniaid fod y dyluniad buddugol wedi llwyddo i gyfleu amrywiaeth pobl hŷn, gan bortreadu cwpwl egnïol a chymdeithasol yn torri allan o’r arwydd ffordd triongl (Canolfan Heneiddio’n Well, 2020).
Gweithgaredd 3
Edrychwch ar y pedair delwedd isod. Yn eich barn chi, pa ddelweddau sy’n cael dylanwad negyddol ar y ffordd rydym yn meddwl ac yn teimlo am bobl hŷn? Pa rai allai gael dylanwad mwy cadarnhaol? Pam?
Cliw: Meddyliwch am y delweddau yr hoffech eu gweld ohonoch chi’ch hun, neu o’ch teulu a’ch ffrindiau.
Gadael sylw
Delwedd A – cartŵn yn dangos menyw hŷn gyda ffon gerdded (delwedd sy’n cael ei dangos yn aml iawn) ond hefyd ag ystum gwan a dillad hen ffasiwn sy’n gwneud iddi ymddangos fel plentyn. Mae’r ddelwedd hon yn canolbwyntio ar wneud i’r fenyw hŷn edrych yn fregus gyda mynegiant trist neu boenus ar ei hwyneb.
Delwedd B – mae’n ymddangos yn naturiol, gyda’r person hŷn yn gwenu ac yn edrych yn brysur. Mae’r ddelwedd hefyd yn herio’r stereoteip nad yw pobl hŷn yn defnyddio technoleg fodern.
Delwedd C – llun agos o bâr o ddwylo person hŷn. Mae delweddau fel hyn yn cael eu defnyddio’n aml mewn erthyglau newyddion am bobl hŷn. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gweld yr unigolyn, sy’n rhywbeth sy’n dad-ddyneiddio pobl hŷn ac sy’n gallu arwain at drin pobl hŷn fel grŵp unffurf.
Delwedd D – dyma lun wedi’i gynllunio, ond mae’n herio’r portreadau nodweddiadol o’r hyn y mae pobl hŷn yn ei wisgo. Mae’r unigolyn yn y llun hefyd yn edrych yn hapus, yn hyderus ac yn egnïol, gan wneud i chi feddwl y tu hwnt i dybiaethau nodweddiadol unwaith eto.
Os yw eich gwaith yn cynnwys defnyddio delweddau, mae’r Ganolfan Heneiddio’n Well wedi creu llyfrgell o ddelweddau am ddim i helpu i ddangos portreadau mwy realistig ac amrywiol o heneiddio.
Porwch drwy’r 'Age-positive image library', llyfrgell o ddelweddau sy’n dangos heneiddio mewn ffordd gadarnhaol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae Age Cymru hefyd wedi creu llyfrgell o ddelweddau stoc am ddim sy’n cynnwys delweddau sy’n cynrychioli profiadau ac amrywiaeth pobl hŷn yng Nghymru.
Edrychwch ar y llyfrgell o ddelweddau stoc ‘Beth Yw Bod Yn Hŷn’.
Bydd y ddwy ddolen hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.
