Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.6 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gwarchod ac yn hyrwyddo hawliau pobl 60 oed a hŷn.

Rôl a Phwerau cyfreithiol

Diffinnir rôl a phwerau statudol y Comisiynydd gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r Rheoliadau cysylltiedig.

Download this video clip.Video player: Fideo 5
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 5 Rhian Bowen-Davies ar rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae’r Ddeddf yn amlinellu’r camau y gall y Comisiynydd eu cymryd i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau a’r cymorth y gall y Comisiynydd ei roi’n uniongyrchol i bobl hŷn mewn rhai sefyllfaoedd.

Swyddogaethau’r Comisiynydd

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • Annog ymarfer da o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru
  • Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru