Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.5 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n mynnu bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn ystyried sut mae eu penderfyniadau a’u gweithredoedd yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig.

Mae’n berthnasol i’r canlynol:

  • Cyrff cyhoeddus (e.e. ysgolion, ysbytai, yr heddlu)
  • Cyrff a mudiadau gwirfoddol neu breifat sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (e.e. cwmni preifat sy’n rhedeg carchar neu fasnachfraint gwasanaethau trên).

Gwyliwch y fideo hwn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gael trosolwg o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Fideo 4 'What is the Public Sector Equality Duty? | Equality law: discrimination explained', Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Gweler y trawsgrifiad [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] [PDF 30 KB])
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhaid i gyrff cyhoeddus roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i gyflawni tri phrif nod, fel y gwelir yn Ffigur 9.

Graffigyn gyda’r teitl ‘Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus’. Mae’r testun o dan y teitl yn dweud ‘Pwrpas tri nod y ddyletswydd gyffredinol yw gwneud yn siŵr bod awdurdodau cyhoeddus yn rhoi sylw dyladwy i’r angen i wneud y canlynol:’ Yna mae’n rhestru’r tri nod gydag eicon wrth ymyl pob un: ‘rhoi diwedd ar ymddygiad anghyfreithlon sydd wedi’i wahardd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth’ (eicon codi llaw), ‘hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a’r rheini nad oes ganddynt nodwedd warchodedig’ (eicon blwch gyda saeth yn pwyntio i fyny ac ymlaen), ‘meithrin perthynas dda rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a’r rheini nad oes ganddynt nodwedd warchodedig (eicon ysgwyd llaw)’. Ffynhonnell: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffigur 9: Tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2022)