1.4 Effeithiau oedraniaeth
Canfu adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd ar oedraniaeth a gyhoeddwyd yn 2021 fod gan 1 o bob 2 o bobl ledled y byd safbwyntiau sy’n enghreifftiau o oedraniaeth yn erbyn pobl hŷn (2021).
Fel y dangosir yn Ffigur 6, roedd yr adroddiad yn dangos effaith oedraniaeth ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn yn ogystal â’u llesiant cymdeithasol. Roedd y dystiolaeth yn pwysleisio’r angen am weithredu ar sail fyd-eang i fynd i’r afael ag oedraniaeth.
Mae oedraniaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol a phellgyrhaeddol o ran iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl:
- I bobl hŷn, mae oedraniaeth yn gysylltiedig â byw am gyfnod byrrach, iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, adferiad arafach o anabledd, a dirywiad gwybyddol.
- Mae oedraniaeth yn lleihau ansawdd bywyd pobl hŷn, yn cynyddu eu hynysigrwydd cymdeithasol a’u hunigrwydd (mae’r ddau yn gysylltiedig â phroblemau iechyd difrifol), yn cyfyngu ar eu gallu i fynegi eu rhywioldeb, a gall gynyddu’r risg o drais a cham-drin yn erbyn pobl hŷn.
- I unigolion, mae oedraniaeth yn cyfrannu at dlodi ac ansicrwydd ariannol mewn henaint, ac yn costio biliynau o bunnoedd i gymdeithas.
Gall oedraniaeth hefyd arwain at gostau uwch i wasanaethau cyhoeddus a’r economi. Enghraifft fyddai lle mae pobl hŷn yn profi rhwystrau a heriau wrth gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu, mae risg y bydd y rhwystrau a’r heriau hyn yn gwthio unigolion tuag at wasanaethau gofal heb ei drefnu llai priodol, gan ychwanegu pwysau a chostau diangen i rannau eraill o wasanaethau iechyd cyhoeddus.
Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas drwy weithio, gwirfoddoli, darparu gofal a chymorth a thalu trethi. Gall oedraniaeth olygu nad yw pob un ohonom yn gwerthfawrogi’r rolau a’r cyfraniadau hanfodol y mae pobl hŷn yn eu gwneud ar draws cymdeithas.
