Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1.1 Iaith

Enghraifft dda o ba mor gyffredin y gall oedraniaeth fod yn erbyn pobl hŷn yw archwilio iaith rydym wedi dod ar ei thraws yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Gweithgaredd 2

Timing: 5 munud

Beth yw eich barn chi am y datganiadau yn y balwnau isod?

Ydych chi’n meddwl bod y datganiadau hyn yn gyfeillgar neu’n elyniaethus?

Ydych chi’n eu cwestiynu nhw pan fyddwch chi’n eu clywed? Ydych chi wedi’u defnyddio nhw eich hun, hyd yn oed amdanoch chi eich hun?

Chwe balŵn mewn steil llyfr comig mewn cynllun 2x3 fertigol. Mae pob balŵn naill ai’n goch neu’n las ac wedi’i osod ar gefndir glas tywyllach. Mae’r ddau falŵn uchaf yn cynnwys y datganiadau ‘mae e’n dangos ei oed’ ac ‘mae hi wedi mynd i lawr yr allt’. Mae’r ddau falŵn yn y canol yn dweud ‘hen ddafad yng nghnu oen bach’ ac ‘ocê, boomer’. Mae’r ddau falŵn isaf yn dweud ‘anodd dysgu hen gostog’ a ‘dylai fod wedi ymddeol erbyn hyn’.
Ffigur 2: Enghreifftiau o ddatganiadau sy’n seiliedig ar oedran

Gadael sylw

Mae’n bwysig meddwl am y datganiadau cyffredin hyn gan fod ganddyn nhw’r pŵer i ddylanwadu ar ein ffordd o feddwl, a thrwy hynny, ein hymddygiad.

Maen nhw’n atgyfnerthu negeseuon cynnil a hawdd eu methu: ein bod ni, pan fyddwn ni’n hŷn, wedi gweld dyddiau gwell ac mai bregusrwydd, galluoedd meddyliol neu gorfforol sy’n dirywio a dibyniaeth yw’r nodweddion anochel sy’n diffinio heneiddio.

Nid oes sôn am brofiad, doethineb, na bod yn fwy hyderus.

Mae llawer o’r datganiadau hyn yn ymwneud â hunaniaeth. Dylai pobl hŷn ymddwyn mewn modd sy’n ‘briodol i’w hoedran’ ac olyniaeth, mae pobl hŷn wedi ‘cael eu tro’ a dylent wneud lle i bobl iau (‘boomers’ a’r syniad y dylai pobl hŷn wneud lle mewn gweithleoedd i roi swyddi i bobl iau).

Mae cysylltiad â rhywedd hefyd. Er enghraifft, rydym wedi canfod mwy o oedraniaeth negyddol yn erbyn menywod hŷn na dynion hŷn, sy’n cael ei ategu gan ymadroddion fel ‘hen ddafad yng nghnu oen bach’.

Os ydych chi’n cyfathrebu â’r cyhoedd fel rhan o’ch gwaith, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi creu canllaw ar osgoi oedraniaeth mewn cyfathrebiadau proffesiynol.

Lawrlwythwch: Sut i osgoi rhagfarn oed wrth gyfathrebu [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (PDF, 632 KB)

Bydd y canllaw hwn hefyd ar gael yn yr adran adnoddau ar ddiwedd y cwrs.